Cystadlaethau Newydd
Mae llawer o gystadlaethau newydd yn Eisteddfod yr Urdd eleni
Darganfod MwyByw, Dysgu a Mwynhau yn y Gymraeg
Yr Eisteddfod yr Urdd flynyddol yw uchafbwynt y mudiad ieuenctid.
Mae Eisteddfod yr Urdd, fel ei chwaer fawr, y Genedlaethol, yn cael ei chynnal am yn ail flwyddyn yn y de a’r gogledd yn ystod hanner tymor y Sulgwyn.
Mae’n un o wyliau ieuenctid mwyaf Ewrop, sy’n denu dros 90,000 o ymwelwyr a 15,000 o gystadleuwyr ifanc sy’n cystadlu yn y canu, dawnsio, actio ac adrodd. Rhain yw'r gorau o tua 40,000 o gystadleuwyr ledled Cymru sydd wedi ennill eu lle yn y Genedlaethol yn dilyn Eisteddfodau Cylch a Sir.
Canolbwynt yr Eisteddfod yw'r Pafiliwn ble mae'r cystadlu yn digwydd ac sy’n dal bron 2,000 o bobl. O amgylch y Pafiliwn mae cannoedd o stondinau lliwgar yn cynnig bob math o weithgareddau i'r teulu cyfan - o feiciau modur, dringo a sesiynau chwaraeon i ffair, bandiau byw a sioeau plant.
Mae'n ddiwrnod gwych i'r teulu cyfan. Os wyt ti'n ymweld cofia lawrlwytho Ap Eisteddfod yr Urdd.
Mae S4C a BBC Radio Cymru yn darlledu’n helaeth o’r digwyddiad. Mae mwy o wybodaeth am yr Urdd ar ein tudalen arbennig ac ar wefan yr Urdd.
Mae llawer o gystadlaethau newydd yn Eisteddfod yr Urdd eleni
Darganfod MwyWyt ti eisiau gadael i ni wybod am ddigwyddiad neu stori newyddion?
Dyweda Yma