• acronymau

    Mae acronymau yn digwydd yn gyffredin (ac yn wir yn cael eu gorddefnyddio) mewn testunau Saesneg. Ni ddylid dilyn hynny’n slafaidd a defnyddio acronym yn y testun Cymraeg bob tro y ceir un yn y Saesneg. Ond, ar y llaw arall, nid oes modd eu hosgoi’n llwyr.

    Natur y ddogfen fydd yn penderfynu weithiau i ba raddau y dylid defnyddio acronymau. Er enghraifft, mae’n bosibl y byddai cyfieithydd yn dewis ysgrifennu enw rhaglen neu gorff yn llawn pe bai’n ymddangos unwaith neu ddwy mewn datganiad i’r wasg neu lythyr, ond pe bai’r un teitl yn codi ddegau o weithiau mewn dogfen bolisi byddai ei roi’n llawn bob tro yn llafurus i’r darllenydd ac yn ychwanegu at hyd y ddogfen.

    Os byddwch yn defnyddio acronym, rhowch yr enw llawn y tro cyntaf, heblaw am ambell un na fyddai ei enw llawn yn gyfarwydd, ee TGAU neu BBC.

    Weithiau, ni fydd yr enw llawn wedi’i gynnwys yn y ddogfen Saesneg a bydd angen holi’r sawl a gomisiynodd y gwaith, yn hytrach na dyfalu’r ystyr.

    Os na fydd yr acronym yn gyfarwydd, y peth gorau yw cynnig cyfieithiad llawn y tro cyntaf y byddwch yn cyfeirio at y corff yn y testun a rhoi’r acronym ar ôl y teitl mewn cromfachau, ee Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru (ASGC). Gallwch wedyn ddefnyddio’r acronym Cymraeg yng ngweddill y testun neu gyfeirio at y corff fel ‘yr Arolygiaeth’, ‘yr Awdurdod’ neu ‘y Bwrdd’ ac yn y blaen, fel y bo’n briodol.

    Yn achos ‘WG’ (Welsh Government’) – yn hytrach na gorddefnyddio ‘LlC’ gellir rhoi ‘Llywodraeth Cymru’ y tro cyntaf ac yna ‘y Llywodraeth’ (mewn achosion lle’r ydych yn gwbl fodlon nad oes modd i hynny roi’r argraff mai Llywodraeth y DU sydd dan sylw).

    Peidiwch â chreu acronymau Cymraeg ar gyfer enwau cyrff neu fudiadau os nad ydynt yn eu defnyddio eu hunain. Defnyddiwch yr enw llawn yn Gymraeg (lle bo hynny’n briodol) ond yr acronym Saesneg.

    Mae enwau rhai cymwysterau’n cael eu trin yn yr un modd. Er enghraifft, defnyddiwch yr acronymau NVQ a GNVQ, ond lle bo angen cyfeirio at y teitlau yn llawn defnyddiwch Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol a Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Cyffredinol.

    O ddefnyddio acronym Saesneg ac enw llawn Cymraeg, ni fydd angen cynnwys y teitl llawn Saesneg hefyd er mwyn esbonio’r acronym.

    Wrth ymdrin â’r lluosog, dilynwch yr un egwyddor ar gyfer acronymau Cymraeg a Saesneg. Ceisiwch osgoi creu acronymau lluosog, os oes modd, trwy aralleirio’r frawddeg. Os nad oes modd gwneud hynny, ystyrir yr acronym fel gair ynddo’i hun felly rhowch y terfyniad lluosog ar ddiwedd yr acronym, ee ‘AALlau’ am ‘Awdurdodau Addysg Lleol’, nid ‘AauALl’. Am yr un rheswm, defnyddiwch yr un terfyniadau bob tro ni waeth pa ffurf sydd i’r lluosog: ‘s’ ar gyfer acronym Saesneg ee NVQs ac ‘au’ ar gyfer acronym Cymraeg ee CCNCau (Cyrff Cyhoeddus a Noddir gan y Cynulliad).

    Peidiwch â threiglo llythyren gyntaf yr acronym, ee anfon e-bost i CBAC, nid ‘i GBAC’.

    Mae Cynllun Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru yn nodi mai’r polisi cyffredinol, yn achos unrhyw fenter bolisi newydd, fydd defnyddio brandiau dwyieithog, gan gynnwys acronymau, sloganau a logos. Mae hynny’n wir hefyd am enwau prif adrannau polisi’r Llywodraeth, ee DfES (Department for Education and Skills) – AdAS (Yr Adran Addysg a Sgiliau). Nid yw’n arfer defnyddio acronymau Cymraeg ar gyfer teitlau’r is-adrannau, fodd bynnag.

  • adran X o Ddeddf X
    nid 'Adran X Deddf X'
  • amseroedd
    10am hyd 4pm, nid ‘10 am hyd 4 pm’ na ‘10yb hyd 4yh’
  • annex
    • Ar ddiwedd dogfen: atodiad, nid ‘ychwanegiad’.
    • Os bydd annex ac appendix yn ymddangos gyda’i gilydd defnyddiwch anecs.
  • ansoddeiriau

    Ein harfer yw peidio â defnyddio ffurfiau lluosog ansoddeiriau megis ‘ifanc’. Mae hynny’n helpu i sicrhau cysondeb mewn teitlau ac ati, ee Strategaeth Pobl Ifanc. Ond nid ydym yn deddfu ynghylch ffurfiau fel ‘gwyntoedd cryf/cryfion’.

    At ei gilydd, y ffurfiau traddodiadol a welir yn ein gwaith ni, ee ‘iau, ieuengaf’ (nid ‘ifancach, ifancaf’), ‘hŷn, hynaf’, ‘hwy, hwyaf’ (er y gallai’r ffurfiau ‘hirach, hiraf’ gael eu defnyddio mewn cyweiriau anffurfiol).

    O ran ystyr ansoddeiriau, ceisiwch wahaniaethu rhwng ‘addas’ (suitable) a ‘priodol’ (appropriate); ‘addysgol’ (educational) ac ‘addysgiadol’ (educative); ‘cymharol’ (comparable) a ‘cymaradwy’ (comparative); ‘penodol’ (particular) ac ‘arbennig’ (special).

  • appendix
    Ar ddiwedd dogfen: atodiad
  • atalnodi

    atalnodi agored
    Yn gyffredinol, mae’r Gwasanaeth Cyfieithu yn dilyn arferion atalnodi agored. Prif egwyddorion yr arddull yw defnyddio cyn lleied o atalnodi diangen â phosibl.

    Er enghraifft:

    • peidio â defnyddio atalnodau llawn mewn talfyriadau - ‘ee’ a ‘hy’, nid ‘e.e’ a ‘h.y’, gan roi coma o’u blaenau
    • peidio â rhoi hanner colon ar ddiwedd yr eitemau mewn rhestr o bwyntiau bwled byr
    • mewn llythyr, peidio ag atalnodi’r cyfeiriad, y cyfarchiad ‘Annwyl …’ na’r ymadrodd ‘Yn gywir’ ar y diwedd.

    Gan fod cryn anghysondeb yn arddull atalnodi dogfennau Saesneg – a hynny weithiau o fewn yr un ddogfen neu gyfres – ceisiwch sicrhau bod yr arddull atalnodi yn gyson yn y cyfieithiadau Cymraeg.

    bylchau ar ôl atalnodau
    Cyfarwyddyd y rhai sy’n cysodi dogfennau'r Llywodraeth yw mai dim ond un bwlch y dylid ei roi ar ôl pob atalnod – atalnod llawn, coma, colon, hanner colon ac ati. Felly, os bydd dau fwlch ar ôl yr atalnodau llawn mewn dogfen, gallwch roi un bwlch ar eu holau yn y cyfieithiad.

  • blwch / bocs
    Defnyddiwch ‘blwch’, nid ‘bocs’, mewn ffurflenni, ee Tick the box/Ticiwch y blwch.
  • blynyddoedd

    Er cysondeb gyda blynyddoedd hyd at 2000: ym 1999 nid ‘yn 1999’.

    Ar ôl y flwyddyn 2000: yn 2000.

  • byth
    Yn gyffredinol, nid oes angen treiglo ‘byth’:
    nid yw byth yn methu
  • canrifoedd
    Ysgrifennwch enwau canrifoedd yn llawn:
    'yr unfed ganrif ar hugain', nid ‘21ain ganrif’ nac ‘21g’
  • cenedl enwau

    Ein harfer yw dilyn y genedl gyntaf sy’n cael ei nodi yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru os nodir dau ddewis, oni bai bod cytundeb ffurfiol i ddilyn cenedl wahanol er cysondeb. Er enghraifft, defnyddir ‘fersiwn’ yn fenywaidd gan y Gwasanaeth Cyfieithu er mai enw gwrywaidd yn unig ydyw yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru.

    Nodwch yn arbennig yr isod:

    benywaidd
    amrywiaeth
    anfantais
    economi
    effaith
    eitem
    fersiwn
    ffaith
    galwad
    gwybodaeth
    hysbyseb
    neges
    proses
    sesiwn
    strategaeth
    trosedd
    tudalen
    ymchwil
    ymgyrch
    ystyriaeth       

    gwrywaidd
    ffactor
    fformat
    fframwaith
    man (=lle)
    nifer
    rhwydwaith
    safle
    sector
    statws
    syndrom

  • cod
    Er cysondeb: cod nid ‘côd’ lle bo’n cyfeirio at y gair Saesneg ‘code’.
  • còd
    Er cysondeb: còd nid ‘cod’ lle bo’n cyfeirio at y pysgodyn penfras.
  • deddfwriaeth

    Mae’n arferol rhoi teitl Cymraeg – teitl ‘cwrteisi’ – i ddeddfau ac offerynnau statudol nad ydynt ar gael yn Gymraeg. Dylai llawer o’r teitlau fod yn TermCymru.

    Os bydd rhan o destun deddf Senedd y Deyrnas Unedig neu Senedd Ewrop yn cael ei dyfynnu, ni fyddwn yn cyfieithu’r darn i’r Gymraeg gan nad oes statws cyfreithiol i gyfieithiad o ddeddf.

    Yn achos deddfwriaeth Gymreig, edrychwch ar y wefan www.legislation.gov.uk i weld a oes fersiwn Gymraeg.

    Os nad oes fersiwn Gymraeg ar gael, ni ddylech gyfieithu’r darn.

    Rhowch y frawddeg hon, neu addasiad ohoni, uwchben rhannau o ddeddfwriaeth a adewir yn Saesneg (ee mewn atodiad i ddogfen) er mwyn esbonio i’r darllenydd pam nad ydynt yn Gymraeg:

    Nid yw'r rhan hon o'r ddogfen ar gael yn Gymraeg gan mai dyfyniad o ddeddfwriaeth nad yw wedi ei gwneud yn Gymraeg ydyw.

  • degawdau

    Rhowch rifolion ar gyfer degawdau ond geiriau ar gyfer cyfnodau:

    • y 1960au (dim collnod), nid ‘y 60au’ nac ‘y chwedegau’ am nad yw’r ganrif yn cael ei phennu
    • dyn yn ei bumdegau, yr unfed ganrif ar hugain
  • diffiniadau

    Mewn deddfwriaeth Gymraeg rhoddir y gair Saesneg cyfatebol ar ôl y Gymraeg mewn llythrennau italig a rhwng dyfynodau a chromfachau ac eithrio yn yr ail enghraifft:

    • Ystyr “cath” (“cat”) yw …
    • Mae i “cath” yr un ystyr â “cat” yn … neu  
    • Mae i “cath” yr un ystyr ag a roddir i “cat” yn … neu
    • Mae i “cath” yr ystyr a roddir i “cat” …

    Os yw’r croesgyfeiriad at ddiffiniad mewn testun Saesneg, dyfynnwch y term Saesneg:
         Gweler adran 59(1) o’r Ddeddf am y diffiniad o “prescribed”, nid  ‘… am y diffiniad o “rhagnodedig”’

     

  • dyddiadau

    Dyma’r drefn y dylid ei defnyddio ar gyfer dyddiadau:
    1 Ionawr 2006, nid ‘1af Ionawr 2006’ na ‘Ionawr 1, 2006’

    Fe’i cynhelir ddydd Gwener, 30 Mehefin, nid ‘Fe’i cynhelir Ddydd Gwener, 30 Mehefin’ (hynny yw, nid oes angen priflythyren yn ‘Ddydd’).

    Bydd y pwyllgor yn cael adroddiad tua diwedd mis Hydref nesaf, nid  ‘... tua diwedd Hydref nesaf’.

  • dyfyniadau

    Ni ddylid cyfieithu dyfyniadau o ddeunyddiau cyhoeddedig (dogfennau, deddfwriaeth, erthyglau papur newydd ac ati) os nad oes fersiynau Cymraeg ohonynt ar gael. Mewn rhai achosion, mae’n bosibl y byddai hi’n briodol cyfieithu’r dyfyniadau ond peidio â defnyddio dyfynodau.

    Os byddwch yn dyfynnu o ddogfennau sydd wedi’u cyhoeddi, gofalwch eich bod yn chwilio am y ddogfen berthnasol ar y rhyngrwyd ac yn cadw at yr union eiriad. Os nad oes fersiwn Gymraeg o’r ddogfen ar gael, gadewch y testun rhwng dyfynodau yn Saesneg.

    Os bydd rhan o destun deddf Senedd y Deyrnas Unedig neu Senedd Ewrop yn cael ei dyfynnu, nid ydym yn argymell eich bod yn cyfieithu’r darn i’r Gymraeg gan nad oes statws cyfreithiol i gyfieithiad o ddeddf.

    Yn achos deddfwriaeth Gymreig, edrychwch ar y wefan www.legislation.gov.uk i weld a oes fersiwn Gymraeg

    Rhowch y frawddeg hon uwchben rhannau o ddeddfwriaeth a adewir yn Saesneg (ee mewn atodiad i ddogfen), er mwyn esbonio i’r darllenydd pam nad ydynt yn Gymraeg:

               Nid yw'r rhan hon o'r ddogfen ar gael yn Gymraeg gan mai dyfyniad o ddeddfwriaeth nad yw wedi ei gwneud yn Gymraeg ydyw.

    Mae cyfieithiad Cymraeg swyddogol o Ddeddf yr Iaith Gymraeg ar gael yng Ngeiriadur Newydd y Gyfraith gan Robyn Léwis.

  • etc

    etc, nid ‘ayb’ nac ‘ayyb’. Nid oes angen atalnod chwaith, oni bai ei fod ar ddiwedd brawddeg wrth gwrs.

    ac yn y blaen neu ac ati yn llawn.

  • feedback
    adborth, nid ‘atborth’
  • iaith ryw-benodol

    Er na ellir osgoi’n llwyr yr angen i ysgrifennu ffurfiau megis ‘athro/athrawes’ gall eu defnyddio fwy nag unwaith neu ddwy yn yr un frawddeg neu baragraff fod yn glogyrnaidd. Defnyddiwch ffurfiau lluosog lle bynnag y bo modd felly, ee penaethiaid yn hytrach na ‘y prifathro/y brifathrawes’.

    Hyd y bo modd, dylid osgoi defnyddio ffurfiau megis ‘ef/hi’, ‘ganddo ef/ganddi hi’. Dylai’r rhagenw blaen gytuno â chenedl ramadegol yr enw y mae’n ei gynrychioli yn hytrach na’r rhyw biolegol y mae’r enw yn ei ddynodi, hyd yn oed os yw’r Saesneg yn dweud ‘his/her’. Er enghraifft:
    ‘If a parent sends his or her child to school’ – ‘Os bydd rhiant yn anfon ei blentyn i’r ysgol’.

    Ni ddylid ar unrhyw gyfrif ddefnyddio ffurfiau clogyrnaidd megis ‘Pan gaiff yr ymgeisydd llwyddiannus ei b/phenodi...’.

    Arfer y Gwasanaeth Cyfieithu yw peidio â defnyddio’r terfyniad –ydd mewn teitlau swyddi oni bai y bo’n digwydd yn naturiol yn rhan o’r teitl, ee ‘cyfieithydd’. Yn hyn o beth, rydym yn dilyn cyfarwyddyd Geiriadur yr Academi (tud. xii):

    "...gender is a grammatical classification, not an indicator of sex; it is misleading and unfortunate that the labels ‘masculine’ and ‘feminine’ have to be used, according to tradition. There is no reason why nouns ending in -wr, -ydd should not refer equally to a woman as to a man."

    Ni fyddwn, felly, yn defnyddio ffurfiau fel ‘rheolydd’ a ‘cyfarwyddwr/wraig’ ac mae’n bwysig iawn cofio hynny wrth gyfieithu hysbysebion swyddi, neu fe allai anghysondeb ddigwydd mewn hysbyseb gyfansawdd sy’n cynnwys nifer o swyddi.

    Ar y llaw arall, mae’n bosibl y bydd rhai deiliad swyddi yn dymuno defnyddio ffurfiau megis ‘rheolydd’ neu ‘cyfarwyddwraig’ yn eu llofnodion electronig neu ar eu cardiau busnes – mater o ddewis personol yw hynny.


     

  • lle

    Mae angen y geiryn ‘y’ ar ôl ‘lle’ yn y cywair clasurol a’r cywair ffurfiol:  dyma’r safle lle y daeth y swyddogion ynghyd i drafod y cynllun

    Os penderfynir hepgor y geiryn ‘y’ mewn cywair anffurfiol ni ddylech dreiglo ar ôl ‘lle’:
    dewch i’r ŵyl lle bydd criw o bobl ifanc …, nid ‘... lle fydd criw o bobl ifanc’.

  • lluosog

    Defnyddiwch y ffurf luosog gyntaf a nodir yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru oni bai bod cytundeb ffurfiol i fabwysiadu lluosog arall er cysondeb o fewn y Gwasanaeth Cyfieithu. Er enghraifft, defnyddir 'harbyrau' fel ffurf luosog 'harbwr', er mai 'harbwrs' a nodir yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru.

    Ceisiwch osgoi defnyddio ffurfiau lluosog ar ansoddeiriau ond lle bo’r ffurf yn air cyffredin.

  • maen nhw
    nid ‘mae’n nhw’ na ‘mae nhw’
  • nifer

    Cofiwch wahaniaethu rhwng ‘rhif’ (sy’n benodol ac, yn gyffredinol, yn cyfeirio at rifolion 1, 2, 3 etc) a ‘nifer’ (sy’n amhenodol, ee mae nifer mawr o gyrsiau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg).

    Gall ‘nifer’ fod yn fenywaidd ac yn wrywaidd ond er cysondeb o fewn y Gwasanaeth Cyfieithu dylid ei drin fel enw gwrywaidd.

  • cyweiriau

    Rydym wedi dosbarthu’r cyweiriau a ddefnyddiwn yn ein gwaith yn bedwar prif gategori: y cywair clasurol, y cywair ffurfiol, y cywair anffurfiol a’r cywair llafar/anffurfiol iawn.

    1. Y cywair clasurol

    mathau o waith: 

    • deunyddiau lled-gyfreithiol
    • deunyddiau ffurfiol iawn 
      ee memoranda cyd-ddealltwriaeth, trwyddedau.

    nodweddion:  

    • Yr wyf, y mae, yr oedd etc
    • Yr wyf yn datgan bod y manylion hyn yn gywir
    • Yr wyf yn tystio bod …
    • ‘Hwy’ nid ‘nhw’
    • Ond ‘chi’, nid ‘chwi’

    2. Y cywair ffurfiol

    Mae cyfran helaeth o’n gwaith yn perthyn i’r categori hwn, ee

    • papurau pwyllgorau
    • papurau’r Cabinet
    • deunyddiau recriwtio, gan gynnwys hysbysebion swyddi
    • adroddiadau blynyddol
    • dogfennau polisi
    • rhai holiaduron a ffurflenni
    • llythyrau

    nodweddion:

    Ffurfiau berfol

     Rwyf (i) / Rwy'n  Nid wyf (i) 
     Rwyt (ti)  Nid wyt (ti) 
     Mae (ef/hi)  Nid yw (ef/hi)
     Rydym (ni)  Nid ydym (ni)
     Rydych (chi)  Nid ydych (chi)
     Maent (hwy) / Maen nhw  Nid ydynt (hwy) / Nid ydyn nhw

    O ran arddull, defnyddio ‘roeddent’ nid ‘roeddynt’, a ‘gallwch’ nid ‘gellwch’.

    Peidio â rhoi ‘y’ o flaen ‘mae’, ac eithrio mewn brawddegau perthynol: dyma’r bachgen y mae ei dad yn brifathro

    Geirynnau rhagferfol
    Mae’r geiryn rhagferfol ‘fe’ yn dderbyniol, ee fe gynhaliwyd, ond peidio â’i orddefnyddio.

    Osgoi defnyddio ‘mi’, ee ‘Mi roddodd’.

    Yna/’na
    Defnyddio ‘yna’, ee roedd yna ddau ddewis, os yw’n gwneud brawddeg yn gliriach, ond peidio â’i orddefnyddio. Osgoi’r ffurf ‘’na’, ee ‘mae ’na’.

    Hwn/hon
    y ffurflen hon, nid ‘y ffurflen yma’

    Arddodiaid
    ataf i, atoch chi, ato ef, atom ni, atynt hwy, atyn nhw

    Holi ac ateb
    Mae angen cynnwys y geiryn holiadol ‘A’ yn y cywair hwn. Nid oes angen ‘fi’, ‘chi’ etc bob tro.

     Holi  Ateb 
     A wyf (i)?  Ydw / Nac ydw (yn hytrach nag Ydwyf / Nac ydwyf)
     A wyt (ti)?  Ydw / Nac ydw
     A ydych (chi)? (unigol)  Ydw / Nac ydw
     A yw (ef)? A yw (hi)?  Ydyw / Nac ydyw
     A ydym (ni)?  Ydym / Nac ydym
     A ydych (chi)?  Ydym / Nac ydym
     A ydynt (hwy)?  Ydynt / Nac ydynt

    Y geiryn ‘y’ ar ôl ‘Sut’, ‘Pryd’, ‘Beth’ etc
    Mae angen cynnwys y geiryn ‘y’ yn y cywair hwn:
    Pryd y bydd y Gweinidog yn gwneud datganiad? nid ‘pryd bydd/pryd fydd’
    Sut y cafodd y cynllun hwn ei gymeradwyo? nid ‘sut cafodd/sut gafodd’
    A all ddweud beth y bydd yn ei wneud? nid ‘beth bydd/beth fydd’

    Lluosog ansoddeiriau
    Ein harfer yw peidio â defnyddio ffurfiau lluosog ansoddeiriau megis ‘ifanc’. Mae hyn yn helpu i sicrhau cysondeb mewn teitlau ac ati, ee Strategaeth Pobl Ifanc.

    Mae rhai eithriadau amlwg, wrth gwrs; ee ‘mwyar duon’, ‘gwartheg duon’, ‘rhosys cochion’. Mater o arddull bersonol yw hi dro arall, a does dim angen deddfu ynghylch pethau fel ‘Maen nhw’n addo gwyntoedd cryf/cryfion heno’.

     

    3. Y cywair anffurfiol

    mathau o waith:

    • datganiadau i’r wasg
    • rhai hysbysebion (nid hysbysebion swyddi)
    • llenyddiaeth ymgyrchoedd cyhoeddus, ee ymgyrchoedd gwrth-smygu, diogelwch ar y ffyrdd
    • deunyddiau ar gyfer disgyblion ysgol
    • rhai taflenni hysbysrwydd
    • rhai holiaduron a ffurflenni
    • posteri, sticeri

    nodweddion:

    Ffurfiau berfol

     Rydw i / Dydw i ddim  Rwy i / Rwy'n   Dw i / Dw i ddim
     Rwyt ti / Dwyt ti ddim    
     Mae ef / Dydy ef ddim    Dyw e ddim
     Mae hi / Dydy hi ddim    Dyw hi ddim
     Rydych chi / Dydych chi ddim    
     Rydyn ni / Dydyn ni ddim    
     Maen nhw / Dydyn nhw ddim    

    Peidio â defnyddio collnodau yn ‘dyw’ etc.

    Defnyddio’r rhagenw ôl yn fwy aml a chysoni cytsain olaf y terfyniad berfol neu arddodiadol i gyd-fynd â chytsain ddechreuol y rhagenw, ee ‘byddem ni > bydden ni’.

    Defnyddio ‘yna’ (ond nid ‘’na’) lle bo angen, ee Mae yna ddau ddewis.

    Defnyddio ‘nhw’ yn lle ‘hwy’.

    Cofiwch mai cysondeb ac ystwythder sy’n bwysig.

    Cwestiynau ac atebion (ee mewn rhai holiaduron/ffurflenni)
    Eto, cysondeb sy’n bwysig – peidio â chymysgu ffurfiau.

     Cwestiwn  Ateb 
     Ydw i?  Ydw / Nac ydw
     Wyt ti?  Ydw / Nac ydw
     Ydy e/hi?  Ydy / Nac ydy
     Ydych chi? (unigol)  Ydw / Nac ydw
     Ydych chi? (lluosog)  Ydyn / Nac ydyn
     Ydyn ni?  Ydyn / Nac ydyn
     Ydyn nhw?  Ydyn / Nac ydyn

    Arddodiaid
    ata i, atat ti, ato fe, ati hi, aton ni, atoch chi, atyn nhw

    Hepgor y geiryn ‘y’ ar ôl ‘pryd’, ‘sut’ etc
    Allwch chi ddweud pryd bydd yr adroddiad yn barod?
    Sut cafodd John wybod?

    Cynnwys ‘fi’, ‘chi’ etc ar ôl y ferf
    Dywedwch beth galla i ei wneud.
    Dyma beth dylech chi ei wneud.

    Mae treiglo’r ferf yn gyffredin hefyd
    beth alla i, beth ddylech chi

    Ceisiwch fod yn gyson o fewn yr un ddogfen.

    Cymalau rhagenwol yn y negyddol
    Mae lle weithiau i ddefnyddio ffurfiau mwy anllenyddol er mwyn sicrhau eglurder, ee mewn ffurflen Rhowch enwau’r bobl sydd ddim yn gweithio yn hytrach na ‘Rhowch enwau’r bobl nad ydynt yn gweithio’. Ond dyma begwn eithaf y cywair anffurfiol – defnyddiwch ‘nad ydynt’ etc fel arfer.

    Yma
    Mae’n iawn defnyddio ‘yma’ weithiau yn hytrach na ‘hwn’, ‘hon’ neu ‘hyn’, ee mewn taflen ar gyfer disgyblion ysgol.

    4. Y cywair llafar (neu anffurfiol iawn)

    mathau o waith:

    • sgriptiau ymgyrchoedd teledu
    • isdeitlau ar gyfer ymgyrchoedd teledu
    • rhai posteri/pamffledi
    • gemau/cartwnau

    nodweddion:

    Ffurfiau berfol

     Rydw i / Rwy i / Dw i  Dydw i ddim / Dw i ddim
     Rwyt ti  Dwyt ti ddim
     Mae e/o  Dyw e/o ddim / Dydy e/o ddim
     Mae hi  Dyw hi ddim / Dydy hi ddim
     Rydyn ni  Dydyn ni ddim
     Rydych chi  Dydych chi ddim
     Maen nhw  Dydyn nhw ddim

    Defnyddio ‘fe’/’mi’ lle bo angen
    fe fydd/mi fydd

    Defnyddio ‘yna’ neu ‘’na’
    Mae ’na xx o blant yn cael eu hanafu ar y ffyrdd bob dydd.

    Hepgor y geiryn 'y' a threiglo ar ôl 'pryd', 'sut' etc
    Pryd fydd y bws yn cyrraedd?
    Sut gafodd Siôn wybod?

    Hepgor llythrennau ar ddechrau geiriau
    ee sgrifennu, smygu, sgwn i

    Hepgor llythrennau yng nghanol geiriau
    ee pnawn yn lle ‘prynhawn’

    Hepgor llythrennau  ar ddiwedd geiriau
    ee posib, ffenest, peryg, o ddifri, cyfri, adre, sy

    Cywasgu geiriau
    ee Sdim gobaith, Snam digon o waith
    Er mwyn dangos sut y dylid ynganu’r geiriau, ee mewn sgript ar gyfer hysbyseb deledu. Byddai ‘Does dim’ yn well mewn deunydd printiedig.

    Defnyddio llafariaid ymwthiol
    ee pobol, sobor
    I’w defnyddio’n bennaf i ddangos yr ynganiad.

    Amrywiadau tafodieithol

    ee

     taw  mai
     efo  gyda
     ma's, mâs  allan
     lan  i fyny
     rŵan  nawr
     moyn  eisiau
     ffaelu  methu

    Mae’r geiriau yn yr ail golofn yn fwy safonol a dylid osgoi defnyddio’r rhai yn y golofn gyntaf oni bai eich bod yn gwybod y byddai’r sawl sy’n mynd i’w llefaru yn eu defnyddio’n naturiol yn ei iaith bob dydd.

    Nodyn: mater arall yw dewis pa air tafodieithol i’w ddewis i gyfieithu gair Saesneg pan fo amryw o eiriau ar gael yn Gymraeg a’r un ohonynt yn fwy ‘safonol’ na’r lleill. Weithiau bydd rhai’n rhoi dewis o ddau neu ragor o eiriau er mwyn i’r ystyr fod yn glir i ddarllenwyr ym mhob rhan o Gymru, ee iau/afu.

  • o dan Ddeddf ...
    nid 'dan Ddeddf ...'
  • chi
    nid 'chwi'
  • orgraff
    Dilynir egwyddorion a sillafiadau Orgraff yr Iaith Gymraeg yn y lle cyntaf a Geiriadur Prifysgol Cymru os nad yw’r gair yn yr Orgraff.
  • posibl
    Er cysondeb: posibl nid ‘posib’.
  • prosiect
    Er cysondeb: prosiect nid ‘project’.
  • rhestrau

    pwyntiau bwledi
    Er cysondeb, dylid treiglo llythyren gyntaf y pwynt bwled cyntaf, ond peidio â threiglo yn y gweddill. Er enghraifft:

    Mae’r pwyllgor wedi cytuno y dylai:

    • drafod y mater yn ei gyfarfod nesaf
      penderfynu ar y mater
      ysgrifennu at y bobl dan sylw.

    Un ffordd o osgoi’r broblem weithiau yw dweud rhywbeth fel:

    Mae’r pwyllgor wedi cytuno y dylai wneud y pethau hyn:

    • trafod y mater yn ei gyfarfod nesaf
      etc

    llythrennau
    Dylid ystyried bod y llythrennau yn rhan o’r testun. Felly, nid oes angen treiglo’r pwynt cyntaf.

    Mae’r pwyllgor wedi cytuno y dylai:
    a) trafod y mater yn ei gyfarfod nesaf
    b) penderfynu ar y mater
    c) ysgrifennu at y bobl dan sylw.

    rhifau
    Dylid ystyried bod y rhifau yn rhan o’r testun. Felly, nid oes angen treiglo’r pwynt cyntaf.

    Mae’r pwyllgor wedi cytuno y dylai:
    1) trafod y mater yn ei gyfarfod nesaf
    2) penderfynu ar y mater
    3) ysgrifennu at y bobl dan sylw.

  • rhifau

    Dilynwch y drefn yn y Saesneg o ran geiriau neu ffigurau.

    Rhowch y rhifau ‘un’ i ‘naw’ mewn geiriau a defnyddiwch rifolion ar gyfer y rhifau o 10 ymlaen.

    Peidiwch â dechrau brawddeg â rhifolyn: 

    • gallwch ei ysgrifennu’n rhan o’r frawddeg
      Ugain o geisiadau a dderbyniwyd, nid ‘20 o geisiadau a dderbyniwyd’
    • gallwch ail-lunio’r frawddeg
      Bydd y Gemau Olympaidd yn dod i Lundain yn y flwyddyn 2012, nid ‘2012 yw’r flwyddyn y bydd y Gemau Olympaidd yn dod i Lundain’

    Cofiwch wahaniaethu rhwng ‘rhif’ (sy’n benodol ac, yn gyffredinol, yn cyfeirio at rifolion 1, 2, 3 etc) a ‘nifer’ (sy’n amhenodol, ee mae nifer mawr o gyrsiau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg).

    Defnyddiwch rifolion gyda miliwn a biliwn, ee 5 miliwn, £1 biliwn. Mae angen gofal wrth drafod miliynau a biliynau er mwyn osgoi amwysedd wrth dreiglo’n feddal. Peidiwch felly â threiglo ‘biliwn’.

  • sgil
    Er cysondeb: ‘yn sgil’ nid ‘yn sgîl’.
  • sgìl

    Pan mai 'skill' yw'r ystyr.

    Er cysondeb: ‘sgìl’ nid ‘sgil’.

  • strwythur adrannau Llywodraeth Cymru
    • Adran (Department) neu Gyfarwyddiaeth (Directorate)
      ee Yr Adran Gwybodaeth a Systemau Corfforaethol
    • Is-adran (Division)
      ee Yr Is-adran Rheoli Hysbysrwydd a Gwybodaeth
    • Cangen (Branch) / Uned (Unit) / Gwasanaeth (Service)
      ee Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru
  • transport

    transport – trafnidiaeth, nid ‘cludiant’ ac eithrio yng nghyswllt ysgolion, ee cludiant am ddim i'r ysgol / free school transport

    traffic – traffig

  • treiglo

    adferf amser
    yr amser a dreulir bob wythnos, nid ‘yr amser a dreulir pob wythnos’

    biliwn / miliwn
    Mae angen gofal wrth drafod biliynau a miliynau er mwyn osgoi amwysedd wrth dreiglo’n feddal. Peidiwch felly â threiglo ‘biliwn’, ee £1 fililwn, £1 biliwn.

    ‘bod’ neu ‘fod’
    Nid oes angen treiglo:
    ar ôl y ffurfiau cryno amhersonol:
      credir bod, dywedwyd bod
    ar ôl berfenw:
      credu bod, dweud bod
    ar ôl ‘er’ (er bod), ‘rhaid’ (rhaid bod), ‘a’ (a bod), ‘yw’ (yw bod), ‘oherwydd’ (oherwydd bod).

    Mae angen treiglo:
    ar ôl ffurfiau cryno’r ferf:
       credaf fod, dywedodd fod
    ar ôl ‘efallai’, sef ffurf gryno ar y ferf ‘gallu’ – ‘ef allai’.

    byth
    Yn gyffredinol, nid oes angen treiglo ‘byth’:
    Nid yw byth yn methu

    cyfres o enwau 
    Uned Bolisi, ond Uned Polisi Cymdeithasol, hynny yw, ar ôl enw benywaidd, mae angen treiglo’r gair sy'n dilyn, ond os oes dau neu ragor o eiriau'n dilyn, a'r cysylltiad rhwng y geiriau hynny a'i gilydd yn gryfach na'r cysylltiad â'r enw benywaidd, does dim treiglad.
    Felly, yr Adran Ddiwydiant ond yr Adran Diwydiant a Masnach.
    Yr Uned Bolisi, ond yr Uned Polisi Cydraddoldeb.

    Mae ambell enghraifft, serch hynny, lle mae'r ddau air sy'n dilyn enw benywaidd gymaint ynghlwm wrth ei gilydd nes bod treiglad yn digwydd. Enghraifft o hynny yw 'yr Ŵyl Gerdd Dant' lle caiff 'cerdd dant' ei drin i bob pwrpas fel un gair neu uned.

    Sylwer hefyd: ardal lai ffafriol, ffordd fwy prysur.

    fe’i
    Nid oes angen treiglo ar ôl ‘fe’i’:
    fe’i gwelwyd ef, fe’i torrwyd hi nid ‘fe’i welwyd ef’, ‘fe’i thorrwyd hi’
    Ond mae angen ychwanegu ‘h’ o flaen llafariaid:
    fe’i hanafwyd ef, fe’i hanafwyd hi nid ‘fe’i anafwyd ef’, ‘fe’i anafwyd hi’

    hefyd
    a threfnu hefyd weithgareddau o bob math, nid ‘a threfnu hefyd gweithgareddau o bob math’

    ‘ll’ a ‘rh’
    nid oes angen treiglo ‘ll’ a ‘rh’
    ar ôl ‘y’: y llewes, y rhodfa
    ar ôl ‘un’: un llaw, un rhaw
    ar ôl ‘yn’: yn llwyddiannus, yn rhagrithiol
    ar ôl ‘pur’: pur llewyrchus, pur rhydlyd

    mae angen treiglo ‘ll’ a ‘rh’
    ar ôl ‘rhy’: rhy laes, rhy rwydd
    fel gwrthrych berf gryno: clywais rai yn dweud, gwelais ragor o gathod

    neu
    Treiglad meddal mewn enwau, berfenwau ac ansoddeiriau:
    dyn neu fenyw, rhedeg neu gerdded, gwyn neu ddu
    Nid yw ffurfiau cryno berfau’n treiglo ar ôl ‘neu’:
    Galwch heibio neu trefnwch gyfarfod nid ‘... neu drefnwch gyfarfod’

    rhaid
    Mae modd treiglo neu beidio â threiglo 'rhaid' ar ôl 'oes':
    A oes rhaid talu am docyn? neu A oes raid talu am docyn?
    Nid oes rhaid codi'n fore
    neu Nid oes raid codi'n fore

    Er cysondeb, arfer y Gwasanaeth Cyfieithu yw peidio â threiglo.

    y cysylltair ‘a’ (and)
    a than, a thros, a thrwy, a chan, a chyda (treiglad llaes), nid ‘a dan, a dros, a drwy, a gan, a gyda’

    ‘y tair’, ‘y pedair’ sy’n gywir – does dim treiglad
     
    yn + ansoddair o flaen berfenw
    Pan roddir ansoddair o flaen berfenw bydd y berfenw yn treiglo ond ni fydd yr ‘yn’ yn treiglo’r ansoddair:
    mae’r pentref yn cyflym ddirywio, nid ‘mae’r pentref yn gyflym ddirywio’
    yn gwirioneddol gredu, nid ‘yn wirioneddol gredu’

    yn enwedig
    Nid oes angen treiglo ar ôl ‘yn enwedig’:
    yn enwedig pobl sy’n gweithio mewn swyddfeydd, nid ‘yn enwedig bobl sy’n gweithio mewn swyddfeydd’

  • these
    ‘hyn’ yn y cywair clasurol a’r cywair ffurfiol, ee y rheoliadau hyn. Mae ‘yma’ yn perthyn i gywair mwy anffurfiol.
  • this
    ‘hwn’, ‘hon’ yn y cywair clasurol a’r cywair ffurfiol, ee y papur hwn, yr agenda hon. Mae ‘yma’ yn perthyn i gywair mwy anffurfiol.
  • United Kingdom (UK)

    y Deyrnas Unedig (y DU), nid ‘y Deyrnas Gyfunol’ na ‘Prydain’ nac ‘Ynysoedd Prydain’

    Mae’r Deyrnas Unedig yn cynnwys Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

    Mae Prydain yn cynnwys Cymru, Lloegr a’r Alban.

  • yr wyddor

    At ei gilydd, er mwyn osgoi dryswch, gwell osgoi defnyddio’r wyddor mewn rhestrau lle bo modd. Defnyddiwch yn hytrach bwyntiau bwled neu gyfrwng gweledol arall, rhifau neu rifau Rhufeinig.
     
    Wrth gyfieithu rhestrau sy’n defnyddio llythrennau’r wyddor, defnyddier yr un llythrennau yn y cyfieithiad. Felly:
    a, b, c, d, e mewn dogfen Saesneg = a, b, c, d, e yn y cyfieithiad.
    a, b, c, ch, d  mewn dogfen Gymraeg = a, b, c, ch, d yn y cyfieithiad.

    Gall fod cyfiawnhad dros beidio â dilyn y rheol hon mewn ambell achos, ee defnyddiwyd yr wyddor Gymraeg wrth gyfieithu pecyn addysg ar gyfer plant ysgolion cynradd.

    Wrth ddrafftio dogfen yn Gymraeg, defnyddiwch yr wyddor Gymraeg.

  • ffontiau
    Dylid dilyn fformat y ddogfen wreiddiol o ran y ffont, maint y teip ac ati.

    Arial 12 yw ffont ‘swyddogol’ y Llywodraeth ond os bydd ffont neu faint teip gwahanol i hynny mewn dogfen, dilynwch fformat y ddogfen benodol honno. Ond, os bydd y ffont honno’n anaddas ar gyfer rhoi toeau bach ar ‘w’ ac ‘y’, tynnwch sylw’r cwsmer at hynny er mwyn ceisio dylanwadu arno i’w newid.

    Arial 16 yw’r maint ffont swyddogol ar gyfer penawdau.

    Arian 14 yw’r maint ffont swyddogol ar gyfer isbenawdau.

    Ni ddylid defnyddio ffontiau ‘Cymraeg’ megis Heledd neu Afallon yn lle’r ffontiau a ddefnyddiwyd yn y fersiwn Saesneg.

  • ffigurau
    Caiff ffigurau eu trin fel petaent yn ffurfiau clasurol. Felly, wrth gyfieithu ‘and 21’ rhowch ‘ac 21’ fel petai’n darllen ‘ac un ar hugain’ ac nid ‘a 21’ (dau ddeg un).
  • ffracsiynau
    Ysgrifennwch ffracsiynau syml yn llawn mewn testunau nad ydynt yn rhai mathemategol ond defnyddiwch rifolion ar gyfer ffracsiynau mwy cymhleth ac ar gyfer cyfuniad o rifau cyfain a ffracsiynau, ee dwy ran o dair, 1½, 7¾.
  • gwybodaeth
    Enw benywaidd yw ‘gwybodaeth’ felly bydd angen cynnal y treiglad drwy’r frawddeg ar ei hyd.

    Defnyddiwch yr wybodaeth, nid ‘y wybodaeth’.

  • teitlau unedau milwrol - trefnolion a rhifolion

    Y drefn arferol wrth enwi unedau milwrol yn Saesneg yw defnyddio trefnolion ee 160th Infantry Brigade, 3rd Battalion The Royal Welsh. Er hynny, fe’u gwelir yn aml wedi’u hysgrifennu fel rhifolion ee 104 Regiment Royal Artillery. Arfer y Gwasanaeth Cyfieithu yn Gymraeg yw defnyddio trefnolion ar gyfer rhifau rhwng un a deg, a rhifolion ar gyfer 11 ac uwch, waeth beth fo arddull y Saesneg. Byddai’r enghreifftiau uchod felly yn cael eu cyfieithu fel a ganlyn:

    • Brigâd 160 y Milwyr Traed
    • 3ydd Bataliwn y Cymry Brenhinol
    • Catrawd 104 y Magnelwyr Brenhinol

    Sylwer bod rhaid newid trefn y geiriau wrth newid o ddefnyddio trefnolion i rifolion.

  • enwau adeiladau

    Os oes enwau Cymraeg swyddogol ar adeiladau, dylid defnyddio’r enwau hynny.

    Os nad oes enwau Cymraeg swyddogol ar adeiladau yng Nghymru, mae’n dderbyniol eu cyfieithu oni bai bod yr enw Saesneg wedi’i gofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau neu bod nod masnach arno ee Celtic Manor Resort. Mewn achos o’r fath gellid defnyddio ffurf fel ‘gwesty’r Celtic Manor Resort’. Dylid arfer gofal wrth drosi enwau i’r Gymraeg rhag camgyfleu’r ystyr. Er enghraifft os nad ydych yn siŵr ai “eglwys” ynteu enw personol sydd o dan sylw yn “Church House”, mae’n well gadael yr enw yn Saesneg.

    Mae’n dderbyniol cyfieithu enwau adeiladau y tu allan i Gymru os ydynt yn rhai cyfarwydd iawn, ee Palas Buckingham, Tŷ Clarence, y Tŷ Gwyn.

    Os nad oes enwau Cymraeg swyddogol ar adeiladau, dylid eu gadael yn Saesneg pan fyddant i’w gweld mewn cyfeiriad swyddogol ee ar frig llythyr, mewn testun sy’n dweud wrth y cyhoedd ble i fynd i gael gwybodaeth/gwasanaeth neu i anfon dogfennau drwy’r post.

  • Deddfau, Biliau a Mesurau
    Mae peth dryswch am y termau hyn. Mae rhai unigolion a sefydliadau yn defnyddio ‘Mesur’ i gyfieithu ‘Bill’ ac nid oedd hynny’n broblem hyd nes i’r Cynulliad Cenedlaethol gael pwerau i wneud yr hyn a elwid yn ‘Mesurau’r Cynulliad’ (Assembly Measures) rhwng 2007 a 2011. Er 2011, ‘Biliau’ (Bills) yw’r enw ar gyfreithiau arfaethedig y Cynulliad, a ‘Deddfau’ (Acts) yw’r enw ar gyfreithiau sydd wedi’u pasio gan y corff hwnnw. Er mwyn gwahaniaethu’n glir rhwng ‘Measure’ a ‘Bill’ yn Gymraeg, arfer Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru yw defnyddio ‘Bil’ ar gyfer pob ‘Bill’ – boed yn rhai San Steffan, Holyrood, Stormont neu Fae Caerdydd. Mae’r defnydd o ‘Bil’ yn yr ystyr hon yn mynd yn ôl at y ddeunawfed ganrif o leiaf.  Defnyddiwn ‘Mesur’ am ‘Measure’. Er nad yw’r Cynulliad yn pasio Mesurau bellach, mae’r rhai a basiwyd ee Mesur y Gymraeg, yn dal yn rhan fyw o’r corff o ddeddfwriaeth Gymreig. Ac ar ben hynny, mae Eglwys Loegr yn dal i basio ‘Mesurau’ (Measures).
  • unigol a lluosog

    Mae’r Gymraeg yn aml yn defnyddio ffurfiau unigol lle mae’r Saesneg yn defnyddio’r lluosog, ac i’r gwrthwyneb. Nid oes angen glynu at y ffurf gyfatebol o anghenraid os yw ffurf wahanol yn fwy naturiol yn y Gymraeg.

    Un enghraifft o hyn yw ‘best practice’. Gan amlaf, bydd Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru yn cyfieithu’r ymadrodd hwn fel ‘arferion gorau’, er mai’r unigol a ddefnyddir yn Saesneg. Yn aml, defnyddir yr enw Saesneg unigol ‘practice’ mewn ystyr dorfol ond teimlir nad yw’r enw Cymraeg unigol ‘arfer’ yn cyfleu hynny’n llawn.  Yn achos ‘best practice’, os oes gwir angen ffurf unigol am ryw reswm, defnyddier ‘arfer orau’ yn unol â’r drefn o ddefnyddio’r genedl a restrir gyntaf yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru.

  • cenedl enwau

    Ein harfer yw dilyn y genedl gyntaf sy’n cael ei nodi yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru os nodir dau ddewis, oni bai bod cytundeb ffurfiol i ddilyn cenedl wahanol er cysondeb. Er enghraifft, defnyddir ‘fersiwn’ yn fenywaidd gan y Gwasanaeth Cyfieithu er mai enw gwrywaidd yn unig ydyw yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru.

    Nodwch yn arbennig yr isod:

    benywaidd
    amrywiaeth
    anfantais
    aradr
    carafán
    economi
    effaith
    eitem
    fersiwn
    ffaith
    galwad
    gwybodaeth
    hysbyseb
    neges
    proses
    sesiwn
    strategaeth
    trosedd
    tudalen
    ymchwil
    ymgyrch
    ystyriaeth       

    gwrywaidd
    ffactor
    fformat
    fframwaith
    man (=lle)
    nifer
    rhwydwaith
    safle
    sector
    statws
    syndrom

  • iaith ryw-benodol

    Er na ellir osgoi’n llwyr yr angen i ysgrifennu ffurfiau megis ‘athro/athrawes’ gall eu defnyddio fwy nag unwaith neu ddwy yn yr un frawddeg neu baragraff fod yn glogyrnaidd. Defnyddiwch ffurfiau lluosog lle bynnag y bo modd felly, ee penaethiaid yn hytrach na ‘y prifathro/y brifathrawes’.

    Hyd y bo modd, dylid osgoi defnyddio ffurfiau megis ‘ef/hi’, ‘ganddo ef/ganddi hi’. Dylai’r rhagenw blaen gytuno â chenedl ramadegol yr enw y mae’n ei gynrychioli yn hytrach na’r rhyw biolegol y mae’r enw yn ei ddynodi, hyd yn oed os yw’r Saesneg yn dweud ‘his/her’. Er enghraifft:
    ‘If a parent sends his or her child to school’ – ‘Os bydd rhiant yn anfon ei blentyn i’r ysgol’.

    Ar adegau, fodd bynnag, gall fod yn amlwg i’r cyfieithydd mai at fenyw y mae’r testun yn cyfeirio, hyd yn oed os bydd y gair neu deitl y swydd yn wrywaidd yn ramadegol – neu i’r gwrthwyneb. Dylid cadw mewn cof y perygl o swnio’n anwybodus neu’n ansensitif mewn amgylchiadau o’r fath. Pan nad oes amheuaeth o gwbl ynghylch rhyw’r sawl sydd dan sylw a phe gellid arwain at destun rhyfedd, fel gyda’r enghreifftiau isod, dylid peidio â glynu’n rhy haearnaidd at y rheol i ddefnyddio’r rhagenw blaen sy’n cyd-fynd â chenedl ramadegol yr enw ee:

    ‘Mae’n bosibl y bydd y claf yn cael cynnig HRT ar ôl ei thriniaeth hysterectomi '
    ‘Cyflwynodd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig ei chynigion gerbron y Senedd’

    Mewn rhai amgylchiadau efallai y byddai modd ychwanegu enw personol at y frawddeg yn y cyfieithiad er mwyn ei gwneud yn fwy naturiol defnyddio’r rhagenw benywaidd. Er enghraifft, yn achos yr ail frawddeg enghreifftiol uchod gellid ychwanegu enw “Theresa May”:

    ‘Cyflwynodd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Theresa May, ei chynigion gerbron y Senedd’

    Ni ddylid ar unrhyw gyfrif ddefnyddio ffurfiau clogyrnaidd megis ‘Pan gaiff yr ymgeisydd llwyddiannus ei b/phenodi...’.

    Arfer y Gwasanaeth Cyfieithu yw peidio â defnyddio’r terfyniad –ydd mewn teitlau swyddi oni bai y bo’n digwydd yn naturiol yn rhan o’r teitl, ee ‘cyfieithydd’. Yn hyn o beth, rydym yn dilyn cyfarwyddyd Geiriadur yr Academi (tud. xii):

    "...gender is a grammatical classification, not an indicator of sex; it is misleading and unfortunate that the labels ‘masculine’ and ‘feminine’ have to be used, according to tradition. There is no reason why nouns ending in -wr, -ydd should not refer equally to a woman as to a man."

    Ni fyddwn, felly, yn defnyddio ffurfiau fel ‘rheolydd’ a ‘cyfarwyddwr/wraig’ ac mae’n bwysig iawn cofio hynny wrth gyfieithu hysbysebion swyddi, neu fe allai anghysondeb ddigwydd mewn hysbyseb gyfansawdd sy’n cynnwys nifer o swyddi.

    Ar y llaw arall, mae’n bosibl y bydd rhai deiliad swyddi yn dymuno defnyddio ffurfiau megis ‘rheolydd’ neu ‘cyfarwyddwraig’ yn eu llofnodion electronig neu ar eu cardiau busnes – mater o ddewis personol yw hynny.


     

  • lluosog

    Defnyddiwch y ffurf luosog gyntaf a nodir yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru oni bai bod cytundeb ffurfiol i fabwysiadu lluosog arall er cysondeb o fewn y Gwasanaeth Cyfieithu. Dyma'r geiriau y cytunwyd i fabwysiadu lluosog gwahanol ar eu cyfer:

    harbwr, harbyrau
    sudd, suddoedd

    Ceisiwch osgoi defnyddio ffurfiau lluosog ar ansoddeiriau ond lle bo’r ffurf yn air cyffredin.

  • treiglo

    adferf amser
    yr amser a dreulir bob wythnos, nid ‘yr amser a dreulir pob wythnos’

    biliwn / miliwn
    Mae angen gofal wrth drafod biliynau a miliynau er mwyn osgoi amwysedd wrth dreiglo’n feddal. Peidiwch felly â threiglo ‘biliwn’, ee £1 fililwn, £1 biliwn.

    ‘bod’ neu ‘fod’
    Nid oes angen treiglo:
    ar ôl y ffurfiau cryno amhersonol:
      credir bod, dywedwyd bod
    ar ôl berfenw:
      credu bod, dweud bod
    ar ôl ‘er’ (er bod), ‘rhaid’ (rhaid bod), ‘a’ (a bod), ‘yw’ (yw bod), ‘oherwydd’ (oherwydd bod).

    Mae angen treiglo:
    ar ôl ffurfiau cryno’r ferf:
       credaf fod, dywedodd fod
    ar ôl ‘efallai’, sef ffurf gryno ar y ferf ‘gallu’ – ‘ef allai’.

    byth
    Yn gyffredinol, nid oes angen treiglo ‘byth’:
    Nid yw byth yn methu

    cyfres o enwau 
    Uned Bolisi, ond Uned Polisi Cymdeithasol, hynny yw, ar ôl enw benywaidd, mae angen treiglo’r gair sy'n dilyn, ond os oes dau neu ragor o eiriau'n dilyn, a'r cysylltiad rhwng y geiriau hynny a'i gilydd yn gryfach na'r cysylltiad â'r enw benywaidd, does dim treiglad.
    Felly, yr Adran Ddiwydiant ond yr Adran Diwydiant a Masnach.
    Yr Uned Bolisi, ond yr Uned Polisi Cydraddoldeb.

    Mae ambell enghraifft, serch hynny, lle mae'r ddau air sy'n dilyn enw benywaidd gymaint ynghlwm wrth ei gilydd nes bod treiglad yn digwydd. Enghraifft o hynny yw 'yr Ŵyl Gerdd Dant' lle caiff 'cerdd dant' ei drin i bob pwrpas fel un gair neu uned.

    Sylwer hefyd: ardal lai ffafriol, ffordd fwy prysur.

    enwau sefydliadau a brandiau
    Ni fyddem yn rhoi rheol gadarn, ond er cysondeb yng ngwaith Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru, dyma drefn gyffredinol y byddem yn ei hargymell:

    Osgoi’r broblem os oes modd, er enghraifft trwy aildrefnu’r frawddeg neu trwy roi enw cyffredin o flaen yr enw priod
    ‘Cafodd ei gyflogi gan elusen Tŷ Hafan’

    Treiglo enwau sy’n dechrau â disgrifiad, er enghraifft cyngor, cymdeithas ac ati, hyd yn oed os yw’r gair disgrifiadol hwnnw’n rhan o’r teitl
    ‘Anfonodd gais cynllunio i Gyngor Sir Gâr’

    Peidio â threiglo enwau nad ydynt yn dechrau â gair disgrifiadol o’r fath
    ‘Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru ganolfannau ymwelwyr ym mhob cwr o Gymru’

    Byddem yn argymell peidio â threiglo enwau masnachol a brandiau mewn gwaith ysgrifenedig, er ein bod yn tueddu i wneud hynny ar lafar:
    ‘Agorodd y Gweinidog gangen newydd o Tesco ar y stryd fawr’

    fe’i
    Nid oes angen treiglo ar ôl ‘fe’i’:
    fe’i gwelwyd ef, fe’i torrwyd hi nid ‘fe’i welwyd ef’, ‘fe’i thorrwyd hi’
    Ond mae angen ychwanegu ‘h’ o flaen llafariaid:
    fe’i hanafwyd ef, fe’i hanafwyd hi nid ‘fe’i anafwyd ef’, ‘fe’i anafwyd hi’

    hefyd
    a threfnu hefyd weithgareddau o bob math, nid ‘a threfnu hefyd gweithgareddau o bob math’

    ‘ll’ a ‘rh’
    nid oes angen treiglo ‘ll’ a ‘rh’
    ar ôl ‘y’: y llewes, y rhodfa
    ar ôl ‘un’: un llaw, un rhaw
    ar ôl ‘yn’: yn llwyddiannus, yn rhagrithiol
    ar ôl ‘pur’: pur llewyrchus, pur rhydlyd

    mae angen treiglo ‘ll’ a ‘rh’
    ar ôl ‘rhy’: rhy laes, rhy rwydd
    fel gwrthrych berf gryno: clywais rai yn dweud, gwelais ragor o gathod

    neu
    Treiglad meddal mewn enwau, berfenwau ac ansoddeiriau:
    dyn neu fenyw, rhedeg neu gerdded, gwyn neu ddu
    Nid yw ffurfiau cryno berfau’n treiglo ar ôl ‘neu’:
    Galwch heibio neu trefnwch gyfarfod nid ‘... neu drefnwch gyfarfod’

    rhaid
    Mae modd treiglo neu beidio â threiglo 'rhaid' ar ôl 'oes':
    A oes rhaid talu am docyn? neu A oes raid talu am docyn?
    Nid oes rhaid codi'n fore
    neu Nid oes raid codi'n fore

    Er cysondeb, arfer y Gwasanaeth Cyfieithu yw peidio â threiglo.

    y cysylltair ‘a’ (and)
    a than, a thros, a thrwy, a chan, a chyda (treiglad llaes), nid ‘a dan, a dros, a drwy, a gan, a gyda’

    ‘y tair’, ‘y pedair’ sy’n gywir – does dim treiglad
     
    yn + ansoddair o flaen berfenw
    Pan roddir ansoddair o flaen berfenw bydd y berfenw yn treiglo ond ni fydd yr ‘yn’ yn treiglo’r ansoddair:
    mae’r pentref yn cyflym ddirywio, nid ‘mae’r pentref yn gyflym ddirywio’
    yn gwirioneddol gredu, nid ‘yn wirioneddol gredu’

    yn enwedig
    Nid oes angen treiglo ar ôl ‘yn enwedig’:
    yn enwedig pobl sy’n gweithio mewn swyddfeydd, nid ‘yn enwedig bobl sy’n gweithio mewn swyddfeydd’

Rhannu'r  dudalen hon

Cofrestra nawr i dderbyn y newyddion diweddara am ddigwyddiadau yn Gymraeg

Yn ôl i'r brig