• adolescents
    y glasoed, nid 'pobl ifanc'
  • addysgiadol
    yr hyn a addysgir (educative, instructive)
  • addysgol
    yn ymwneud ag addysg (educational)
  • ar gyfer

    Mae ‘ar gyfer’ yn gallu bod yn ddefnyddiol iawn ond peidiwch â meddwl bod eisiau ‘ar gyfer’ bob tro y ceir ‘for’ yn y Saesneg. Yn aml, mae ‘i’ yn ddigon ac weithiau bydd ‘at’ yn fwy addas ac yn fyrrach. Weithiau hefyd mae modd hepgor ‘ar gyfer’ yn gyfan gwbl. Dyma rai enghreifftiau:

     Gwell... na... 
     Cyngor defnyddiol i bobl sy'n ddi-waith Cyngor defnyddiol ar gyfer pobl sy'n ddi-waith 
     Mae cyfnod heintus y math hwn o haint yn amrywio Mae'r cyfnod heintus ar gyfer y math hwn o haint yn amrywio 

  • attached
    A copy of the letter is attached’
    Amgaeir copi o’r llythyr
    , nid ‘Atodir copi o’r llythyr’
  • berfau

    amserau’r ferf
    Mae angen gofal wrth ddefnyddio gwahanol amserau’r ferf.

     The Minister said (gorffennol)  Dywedodd y Gweindog
     The Minister has said (perffaith)  Mae'r Gweinidog wedi dweud
     The Minister had said (gorberffaith)  Roedd y Gweinidog wedi dweud
     The Members hoped (amherffaith)  Roedd yr Aelodau'n gobeithio neu Gobeithiai'r Aelodau nid Gobeithiodd yr Aelodau (gorffennol)
     The First Minister said (gorffennol) he would (amherffaith)  Dywedodd y Prif Weinidog y bydd (dyfodol)

    ffurfiau cryno a ffurfiau cwmpasog
    Nid oes rhaid defnyddio ffurfiau cryno’r ferf bob tro: hynny yw, nid yw ‘golyga hynny’ yn well Cymraeg na ‘mae hynny’n golygu’. Mae i’r ddau eu lle a dylid dewis a dethol yn ofalus rhwng ffurfiau cryno a chwmpasog yn ôl yr ystyr y mae angen ei gyfleu. Bydd angen ystyried hefyd effaith defnyddio’r ffurf gwmpasog ar hyd y testun cyfan os bydd cyfyngiadau o ran lle.

    Mae ffurfiau cryno megis ‘penderfynodd yr aelodau’, a ‘clywodd y bobl’ yn ddigon cyfarwydd, ac felly nid oes rheswm dros eu hosgoi a defnyddio ffurfiau megis ‘fe wnaeth yr aelodau benderfynu’ a ‘fe wnaeth y bobl glywed’.

    Mae i’r ffurfiau cwmpasog eu lle fodd bynnag pan fo angen osgoi ffurfiau clogyrnaidd neu orlenyddol. Er enghraifft, gellir dweud ‘fe wnaethant gydnabod’ yn hytrach na ‘cydnabuasant’, a ‘fe wnaethoch wrthod’ yn hytrach na ‘gwrthodasoch’.

    Ceisiwch osgoi’r ffurfiau ‘bu inni’, ‘bu iddynt’ etc lle bo modd. Mae ‘fe wnaethon ni fwynhau ein hunain’ yn well na ‘bu inni fwynhau ein hunain’.

    Mae i’r geiryn rhagferfol ‘fe’ ei le yn ein gwaith ni hefyd lle bo’n helpu llif y frawddeg neu’n cryfhau ystyr y ferf sy’n dilyn, ee Do, fe ddaeth y llythyr ymhen hir a hwyr. Dylech osgoi ei orddefnyddio serch hynny ac ni ddylid defnyddio ‘mi’, ac eithrio mewn sgriptiau ac ati.

    ffurfiau amhersonol
    Nid oes rhaid defnyddio ffurfiau amhersonol bob tro. Gallwch eu defnyddio mewn testun ffurfiol ei naws ond os byddwch yn cyfieithu ar gyfer y cyhoedd, dyweder, gallwch hepgor yr amhersonol, ee Os yw eich eiddo ym mand C … yn hytrach na ‘Os gosodwyd eich eiddo ym mand C …’.

    berfau cynorthwyol
    Mae angen gofal wrth drosi ymadroddion lle defnyddir berfau’n gynorthwyol yn Saesneg.

     Saesneg Cymraeg   nid...
     to make use of  defnyddio  gwneud defnydd o
     to pay a visit  ymweld â  talu ymweliad â

     this represents a step forward

     mae hyn yn gam ymlaen  mae hyn yn cynrychioli cam ymlaen
     this serves as a warning  mae hyn yn rhybudd  mae hyn yn gwasanaethu fel rhybudd
     to give consideration to  ystyried  rhoi ystyriaeth i
     to take account of / to take into consideration  ystyried  cymryd ystyriaeth o
     to make attempts to  ceisio  gwneud ymgais i
     to make efforts to  ymdrechu  gwneud ymdrech i
     to make a decision  penderfynu  gwneud penderfyniad

     

  • berfenwau

    Defnyddiwch ferfenw yn lle ansoddair lle bo modd:

    • corff llywodraethu, nid ‘corff llywodraethol’
    • dogfen ymgynghori, nid ‘dogfen ymgynghorol’
    • camau gweithredu, nid ‘camau gweithredol’

    Defnyddiwch ferfenw yn lle enw lle bo modd:

    • datblygu economaidd, nid ‘datblygiad economaidd’
  • brawddegau gweithredol / goddefol

    Mae defnyddio brawddegau gweithredol neu uniongyrchol yn hytrach na brawddegau goddefol:

    • yn gryfach
    • yn fyrrach
    • yn haws eu darllen
    • yn cyfleu ergyd y neges yn fwy effeithiol.

    brawddeg weithredol
    Goddrych, neu destun, y frawddeg sy’n gwneud y weithred mewn brawddeg weithredol, ee ‘Crafodd y gath Joni bach’.
    Y gath, felly, sy’n gwneud y weithred, sef crafu Joni bach.

    brawddeg oddefol
    Mewn brawddeg oddefol mae rhywbeth yn digwydd i oddrych y frawddeg, ee ‘Cafodd Joni bach ei grafu gan y gath’.
    Joni bach yw goddrych y frawddeg hon ond nid yw ef yn gwneud dim. Mae’r weithred yn cael ei gwneud iddo ef. Joni bach sy’n cael ei grafu.

    Dyma enghraifft fwy cymhleth: 
    ‘Cyflwynwyd canllawiau newydd gan y Bwrdd Rheoli yn y gobaith y byddai hyd dogfennau sy’n cael eu paratoi gan Adrannau yn cael ei gyfyngu i 20 tudalen.’
    Dyma hi eto gyda’r ffurfiau goddefol wedi’u dileu a ffurfiau gweithredol yn eu lle:
    ‘Cyflwynodd y Bwrdd Rheoli ganllawiau newydd yn y gobaith y byddai Adrannau yn cyfyngu ar hyd dogfennau i 20 tudalen.’

  • circular / newsletter
    ‘Cylchlythyr’ ar gyfer y ddau. Efallai y byddai cyfiawnhad dros ddefnyddio 'newyddlen' ar gyfer ‘newsletter’ pe bai angen gwahaniaethu rhwng y ddau yn yr un darn o waith.
  • Cymraeg Clir

    Y prif egwyddorion yw:

    • bod yn fyr ac yn gryno
    • peidio â defnyddio ffurfiau benywaidd a lluosog ansoddeiriau ond lle bo’r ffurf honno yn air cyffredin iawn
    • defnyddio iaith neu gystrawen syml
    • defnyddio brawddegau uniongyrchol a gweithredol yn hytrach na brawddegau goddefol
    • defnyddio llai o ferfau amhersonol
    • rhannu brawddeg amlgymalog yn frawddegau llai
    • defnyddio berfenw yn lle enw ac ansoddair lle bo modd
    • osgoi glynu’n rhy gaeth wrth gystrawen y Saesneg.
  • Cymru a'r Gymraeg
    Wrth gyfeirio at England and Wales defnyddiwch ‘Cymru a Lloegr’.
    Wrth gyfeirio at English and Welsh defnyddiwch ‘Cymraeg a Saesneg’.
  • Cynulliad Cenedlaethol Cymru / Llywodraeth Cymru

    Cynulliad Cenedlaethol Cymru – National Assembly for Wales
    Y term cyfreithiol am y corff corfforaethol sy’n cynnwys y 60 Aelod etholedig.

    Llywodraeth CymruWelsh Government (neu the Welsh Government)
    Prif Weinidog Cymru a Gweinidogion y Cynulliad, ynghyd â’r gweision sifil sy’n gweithio i’r is-adrannau polisi. Mae’n bwysig iawn peidio â chymysgu rhwng y rhain. Ni ddylid cyfieithu ‘Welsh Government’ fel ‘Cynulliad Cenedlaethol’, er enghraifft. 'Llywodraeth Cynulliad Cymru' oedd yr enw blaenorol ar Lywodraeth Cymru.

    Wrth gyfeirio’n ôl at ‘y llywodraeth’ mewn brawddeg, cofiwch mai enw benywaidd ydyw, ee Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hyrwyddo cyfle cyfartal yn ei pholisïau.

  • EC

    Pan fydd ‘EC’ yn ymddangos yn rhan o deitl deddf Ewropeaidd defnyddiwch ‘EC’:
    Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/69/EC

    Pan na fydd ‘EC’ yn rhan o deitl, defnyddiwch ‘CE’:
    Mae angen sicrhau bod y canllawiau yn cydymffurfio â Rheoliadau’r CE

  • electrical / electronic

    electrical – trydanol

    electronic – electronig
  • feedback
    adborth, nid ‘atborth’
  • Frequently Asked Questions (FAQs)

    Cwestiynau Cyffredin, nid ‘Cwestiynau a Ofynnir yn Aml’

     

  • in relation to

    Ceisiwch osgoi gorddefnyddio ‘mewn perthynas â’ a rhoi yn ei le ymadroddion megis ‘o ran’, ‘ynghylch’ neu ‘ynglŷn â’.

  • inclusion
    cynhwysiant, nid ‘cynhwysedd’ na ‘cynhwysiad’
  • cystrawen

    Wrth gyfieithu, rhaid osgoi glynu’n rhy gaeth wrth gystrawen y Saesneg.

    There will be an increase in the demand for and the provision of modern foreign language courses.
    Anghywir: Bydd cynnydd yn y galw am a’r ddarpariaeth o gyrsiau ieithoedd tramor modern.
    Cywir: Bydd y galw am gyrsiau ieithoedd tramor modern yn cynyddu a bydd mwy ohonynt yn cael eu darparu.

    The scheme was important in creating opportunities.
    Anghywir: Roedd y cynllun yn bwysig wrth greu cyfleoedd.
    Cywir: Roedd y cynllun yn bwysig o ran creu cyfleoedd.
     
    The aim of the scheme is to improve standards in schools.
    Anghywir: Amcan y cynllun yw i wella safonau mewn ysgolion.
    Cywir: Amcan y cynllun yw gwella safonau mewn ysgolion.

    Whilst we acknowledge that we cannot ...
    Anghywir: Tra’r ydym yn cydnabod na allwn ...
    Cywir: Er ein bod yn cydnabod na allwn …

    These are the potential problems.
    Anghywir: Y rhain yw’r problemau potensial (hynny yw, defnyddio ‘potensial’ fel ansoddair)
    Cywir: Y rhain yw’r problemau posibl.

    The number of cases has risen by 20%.
    Anghywir: Mae’r nifer o achosion wedi cynyddu/codi o 20%.
    Cywir: Mae nifer yr achosion wedi cynyddu/codi 20%.
    neu
    Bu cynnydd o 20% yn nifer yr achosion.

    To provide the public with information.
    Anghywir: Darparu’r cyhoedd â gwybodaeth.
    Cywir: Darparu gwybodaeth ar gyfer y cyhoedd.

  • llwyth / llwythau
    tribes
  • llwyth / llwythi
    loads
  • may (has discretion to, is permitted to)
    'caiff', nid 'gall'
  • must
    Mae angen gwahaniaethu rhwng 'should' - 'dylai' a 'must' - 'rhaid'
  • meet

    ‘cwrdd’ â phobl

    ‘talu’ costau

    ‘bodloni’ neu ‘ddiwallu’ anghenion, meini prawf, gofynion etc

  • o fewn
    Ceisiwch osgoi gorddefnyddio ‘o fewn’. Yn aml mae ‘yn’ yn ddigon yn lle ‘o fewn’ hyd yn oed lle bo ‘within’ yn Saesneg. Mae ‘yng Nghymru’ yn golygu’r un peth ag ‘o fewn Cymru’ oni bai bod gwir angen y pwyslais.
  • pan

    Nid oes angen ‘y’ ar ôl ‘pan’:
    pan fyddwch yn barod, nid ‘pan y byddwch yn barod’

    Nid oes angen ‘yn’ ar ôl ‘pan’, ond mae angen berf:
    pan fyddwch yn gweithio ar gyfrifiadur, nid ‘pan yn gweithio ar gyfrifiadur’

    Yn lle ‘pan yw’ (sy’n ffurfiol iawn) neu ‘pan mae’ (sy’n anghywir) gall ‘pan fo’ fod yn ffurf ddefnyddiol ar adegau.

    Defnyddiwch ‘pan fo’ i gyfleu where amgylchiadol hy pan fo'r gair where yn cyfeirio at amgylchiadau yn hytrach na lleoliad:
    Where a pupil is suspended, the parent must be informed.
    Pan fo disgybl yn cael ei wahardd, rhaid hysbysu'r rhiant.

    Defnyddiwch ‘pan fydd’ i gyfleu when

  • person

    Heblaw am yr ystyr gramadegol (y trydydd person unigol etc) ac i gyfieithu ‘parson’ ceisiwch osgoi defnyddio ‘person’.

    Gallwch ddefnyddio ‘rhywun’, ‘y sawl’ ‘yr unigolyn’ neu hyd yn oed ei osgoi yn gyfan gwbl:
    am ‘All persons will be banned from smoking’ gallwch roi 'Gwaherddir pawb rhag smygu'
    'y sawl a oedd yn annerch y gynulleidfa'
    , nid ‘y person a oedd yn annerch y gynulleidfa’.

  • pobl

    Gallwch ddefnyddio ‘pobl’ yn lle ‘personau’ am ‘persons’.

    Enw benywaidd unigol yw ‘pobl’ ac felly ‘y bobl dda’ sy’n gywir.

  • teitlau

    cyhoeddiadau Llywodraeth Cymru
    Mae modd  dod o hyd i deitlau llawer o gyhoeddiadau Llywodraeth Cymru yn TermCymru neu ar ochr Gymraeg safle’r Llywodraeth ar y wefan www.llyw.cymru.

    Ni ddylid cyfieithu teitl os nad yw’r ddogfen ei hun wedi’i chyfieithu i’r Gymraeg.

    cyhoeddiadau cyffredinol
    Gellir dod o hyd i’r rhain weithiau drwy ddefnyddio peiriannau chwilio megis Yahoo a Google. Gallwch hefyd chwilio gwefan y corff a gyhoeddodd y ddogfen sydd dan sylw – y Cyd-bwyllgor Addysg, Cyfoeth Naturiol Cymru ac ati.

    Mae’r wefan www.gov.uk yn ddefnyddiol ar gyfer cyhoeddiadau llywodraethol cyffredinol.

    deddfwriaeth Gymreig

    Os nad yw teitl darn o ddeddfwriaeth Gymreig yn TermCymru, edrychwch ar y wefan www.legislation.gov.uk i weld a oes fersiwn Gymraeg.

    Deddfau Senedd y DU
    Er ei bod yn arferol defnyddio teitlau Cymraeg ar gyfer deddfau seneddol, nid yw’n arferol cyfieithu dyfyniadau o ddeddfau i’r Gymraeg gan nad oes statws cyfreithiol i gyfieithiadau o’r fath.

    Weithiau, yn achos dyfyniadau byr o ddau neu dri gair, gellir aralleirio’r testun ond peidio â defnyddio dyfynodau.

    Mae cyfieithiad Cymraeg swyddogol o Ddeddf yr Iaith Gymraeg ar gael yng Ngeiriadur Newydd y Gyfraith gan Robyn Léwis.

    deddfwriaeth
    Mae’n hen arfer defnyddio teitlau Cymraeg  ar gyfer deddfau seneddol er nad yw’r deddfau eu hunain ar gael yn Gymraeg. Mae hynny’n wir hefyd am ddeddfwriaeth a wneir gan y Cynulliad: gellir rhoi teitl Cymraeg (teitl ‘cwrteisi’) i offeryn statudol er nad yw’r offeryn ei hun ar gael yn Gymraeg.

    Wrth gwrs, os yw’r offeryn ar gael yn Gymraeg, mae’n bwysig iawn defnyddio’r teitl Cymraeg swyddogol. Mae llawer o’r teitlau wedi’u cynnwys yn TermCymru.

    Ysgrifenyddion y Cabinet a Gweinidogion
    Mae’r teitlau llawn i gyd yn TermCymru. Pan geir rhagair gan un o’r Gweinidogion mewn dogfen, dylid rhoi’r fannod ar ddechrau’r teitl hyd yn oed os nad yw yno yn y Saesneg:

    Dafydd Elis-Thomas
    Minister for Culture, Tourism and Sport

    Dafydd Elis-Thomas
    Y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon

    Nodwch mai’r patrwm y Gweinidog Diwylliant etc a ddefnyddir ar gyfer teitlau Gweinidogion Cymru, nid 'y Gweinidog dros Ddiwylliant etc'.

    Os defnyddir ffurf fer ar deitl Gweinidog mewn testun, ee ‘Culture Minister’, gellir gwneud hynny yn y Gymraeg hefyd, ee y Gweinidog Diwylliant.

    teitlau swyddi eraill

    Cofiwch nad oes angen cyfieithu’r gair ‘to’ mewn teitlau swyddi yn Saesneg ee:

    Clerk to the Assembly – Clerc y Cynulliad

    Mae atalnod i’w weld yn aml ar ôl teitlau swyddi mewn cofnodion, yn y rhestr o’r bobl a oedd yn bresennol ee:
     
    Chief Executive, Arts Council of Wales

    Nid oes angen yr atalnod yn y Gymraeg gan fod enw’r sefydliad yn dilyn teitl y swydd yn naturiol:

    Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru

    Wedi dweud hynny, gall fod angen ei gynnwys o bryd i’w gilydd ee pe bai mwy nag un swydd yn dwyn yr un teitl yn y sefydliad:

    Ymddiriedolwr, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

    Yn yr achos hwn, mae gan yr Ardd Fotaneg nifer o Ymddiriedolwyr felly rhaid cynnwys yr atalnod i ddangos hynny.

  • posibiliadau
    Rhywbeth a all fod neu a all ddigwydd: possibilities.
  • posibilrwydd
    Y cyflwr o fod yn bosibl: possibility.
  • proflenni

    Gan nad yw’r rhan fwyaf o’r cysodwyr a fydd yn ymgorffori newidiadau mewn proflenni yn medru’r Gymraeg, gofynnwn i unrhyw gyfarwyddiadau y byddwch yn eu hysgrifennu ar broflenni neu mewn pdfs electronig gael eu hysgrifennu yn Saesneg, ee new para.

    Mae gofyn bod yn ofalus os byddwch yn nodi cywiriad ar ddechrau dogfen ac yn gofyn i’r cysodydd wneud yr un cywiriad drwy’r ddogfen gyfan. Os oes posibilrwydd y bydd angen amrywio’r cywiriad hwnnw mewn mannau oherwydd rheolau treiglo, ni ellir cymryd yn ganiataol y bydd y cysodydd yn gwybod hynny.

    Os oes ychwanegiadau sylweddol i’w gwneud i ddogfen, mae’n well teipio’r testun newydd mewn dogfen ar wahân a’i hatodi i'r e-bost wrth ddychwelyd y broflen pdf. Os oes sawl darn o'r fath gellir teipio’r ychwanegiadau o dan ei gilydd, gan roi rhif i bob un, a rhoi nodiadau yn ychwanegu'r rhifau yn y mannau priodol ar y broflen i ddangos i’r cysodydd ymhle y dylid rhoi’r ychwanegiadau.

     

     

  • p'un
    Mae angen gofal wrth gyfieithu:
    To see whether a new strategy is needed
    Anghywir: Er mwyn gweld p’un a oes angen strategaeth newydd
    Cywir: Er mwyn gweld a oes angen strategaeth newydd
  • receive

    Mae angen gofal wrth gyfieithu ‘receive’ i’r Gymraeg. Wrth gyfieithu ‘received a proposal’ peidiwch â defnyddio ‘derbyn cynnig’ oherwydd efallai i’r cynnig a ddaeth i law gael ei wrthod, hynny yw ‘been received and rejected’. Gwell defnyddio ‘cael’, ee ‘I have received your letter – rwyf wedi cael eich llythyr’, ‘you will receive notification –  byddwch yn cael eich hysbysu’ (nid ‘byddwch yn derbyn hysbysiad’).
    Dewis arall yw 'dod i law': 'Daeth y ddeiseb i law a bydd yn cael ei thrafod yfory.'

  • regulatory reform

    Ystyr 'regulatory reform' yw diwygio'r drefn reoleiddio. Mae'r Llywodraeth yn awyddus i ysgafnhau'r baich rheoleiddio ar wahanol agweddau ar ein bywydau, ee rheoleiddio'r diwydiant adeiladu. Mae'r ddeddfwriaeth sylfaenol a'r is-ddeddfwriaeth sy'n gorfodi'r trefnau rheoleiddio gwahanol yn gallu bod yn gymhleth, gyda dros gant o ddeddfau i bob sector ac, yn ôl y Llywodraeth, mae'n gostus iawn i fusnesau i'w gweithredu. Mae Deddf Diwygio Rheoleiddio 2001 yn galluogi Gweinidogion Llundain a'r Cynulliad i wneud gorchmynion i symleiddio'r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â threfnau rheoleiddio gwahanol. Felly 'diwygio rheoleiddio' sy'n briodol fan hyn (byddai 'rheoleiddiol' yn bosibl hefyd) – nid ‘rheoliadol'.

    Mae 'rheoliadol' yn ansoddair o 'rheoliad'; hynny yw, 'yn perthyn i reoliad(au)', ee ‘regulatory appraisal’ – 'arfarniad rheoliadol'.


     

  • required
    yn ofynnol
  • rheoliadau Ewrop
    Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor, nid ‘Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 o Senedd Ewrop ac o’r Cyngor’
  • rhwng ... a ...

    Defnyddiwch rhwng… a … nid ‘o ... i . . .’ wrth gyfieithu ‘from ... to …’ ee:

    'rhwng 5 a 7 niwrnod' am ‘from 5 to 7 days’.

  • Scottish Executive
    Gweithrediaeth yr Alban
  • Secretary of State for Wales
    Ysgrifennydd Gwladol Cymru nid ‘Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru’
  • shall (is, will)
    Pan mai 'is'/'will' yw'r ystyr, dylid ei gyfieithu fel 'bydd'.
    There shall be a meeting on Wednesday
    Bydd cyfarfod ddydd Mercher
  • shall (has a duty to)
    Pan mai 'has a duty to' yw'r ystyr, dylid ei gyfeithu fel 'rhaid', nid ‘bydd’. .
    The Chair shall appoint a deputy
    Rhaid i’r Cadeirydd benodi dirprwy,
    nid ‘Bydd y Cadeirydd yn penodi dirprwy’
  • sign a letter / document
    llofnodi, nid ‘arwyddo’
  • sign up to
    All parties have signed up to this policy
    cytuno,
    nid ‘llofnodi’
  • those
    Wrth sôn am bobl ddienw, gallwch ddefnyddio ‘y rhai’ yn hytrach nag ‘y rheini’ os bydd hynny’n briodol, ee er mwyn diogelu’r rhai a allai golli eu heiddo, nid ‘er mwyn diogelu’r rheini a allai golli eu heiddo’.
  • unrhyw beth / unrhyw un

    unrhyw beth, unrhyw un, nid ‘unrhywbeth’, ‘unrhywun’

    Ceisiwch beidio â gorddefnyddio’r ffurfiau uchod wrth gyfieithu any/anyone. Er enghraifft:

    defnyddiwch: nid ydym wedi gallu gwneud dim eto
    yn hytrach na: 'nid ydym wedi gallu gwneud unrhyw beth eto'

    defnyddiwch: nid oes gan yr un siaradwr
    yn hytrach na: 'nid oes gan unrhyw siaradwr'

    defnyddiwch: bydd gan y sawl a fydd yn cyflwyno adroddiad
    yn hytrach na: 'bydd gan unrhyw un a fydd yn cyflwyno adroddiad'

    defnyddiwch: nid oedd neb wedi gwneud cwyn
    yn hytrach na: 'nid oedd unrhyw un wedi gwneud cwyn'

  • where

    'pan' neu 'os’ pan fo’n ‘amgylchiadol’ (circumstantial) ei ystyr:
    ‘Where a pupil is suspended, the parent must be informed’
    'Pan fo disgybl yn cael ei wahardd, rhaid hysbysu'r rhiant'

    ‘lle’ pan fo’r testun yn cyfeirio at leoliad penodol (locational):
    ‘Premises where education is provided’
    'Mangre lle y darperir addysg'

  • gwefannau
    Pan geir dolen sy’n arwain at safle neu ddogfen Saesneg ar y rhyngrwyd, nid digon yw ei chynnwys fel y mae yn y cyfieithiad, gan fod angen rhoi gwybod i’r darllenydd sut mae darganfod y safle neu’r ddogfen Gymraeg gyfatebol.

    Gwefan Llywodraeth Cymru:
    http://www.llyw,cymru (yr ochr Gymraeg)
    http://www.gov.wales (yr ochr Saesneg)

    Mae gan rai o’r adrannau gyfeiriadau gwahanol ar gyfer eu safleoedd Cymraeg a Saesneg ar y we. Er enghraifft, yr Adran Amaeth:

    http://www.cefngwlad.cymru.gov.uk/ (yr ochr Gymraeg)
    http://www.countryside.wales.gov.uk (yr ochr Saesneg)

    Ond nid yw hynny’n wir am bob adran ac is-adran ac felly, wrth gyfieithu, bydd angen edrych ar y we bob amser i wneud yn siwr eich bod yn rhoi’r cyfeiriadau cywir.

    Mae gan rai cyrff gyfeiriadau gwahanol ar gyfer eu safleoedd Cymraeg a Saesneg ar y we, er enghraifft:

    http://www.sirddinbych.gov.uk/ (yr ochr Gymraeg)
    http://www.denbighshire.gov.uk/ (yr ochr Saesneg)

    http://www.cyfoethnaturiol.cymru (yr ochr Gymraeg)
    http://www.naturalresources.wales (yr ochr Saesneg)

    Os ceir cyswllt sy’n arwain at ddogfen Saesneg benodol, bydd angen ei newid er mwyn iddi arwain at y ddogfen Gymraeg gyfatebol, ee

    www.wales.gov.uk/subieducationtraining/content/learningcountry/foundation-index-e.htm
    www.cymru.gov.uk/subieducationtraining/content/learningcountry/foundation-index-w.htm

    Mae’r enghraifft hon yn un eithaf syml – newid ‘wales’ i ‘cymru’ ac ‘e’ i ‘w’ – ond mae rhai yn fwy cymhleth na hynny. Bydd angen agor y ddogfen Gymraeg i ddarganfod y cyswllt cywir.

    Rydym yn ceisio cael ein cwsmeriaid i ddarparu’r dolenni Cymraeg i ddogfennau, gan nad gwaith cyfieithu yw hwn mewn gwirionedd. Os bydd rhestr helaeth ohonynt ar ddiwedd dogfen, rhowch wybod i’r gweinyddwyr fel y gellir trefnu i’r cwsmer chwilio amdanynt tra byddwch chi’n cyfieithu’r ddogfen. Neu, os byddwch yn gadael dolenni yn Saesneg yma ac acw mewn darn o waith, cofiwch ddweud wrth y cwsmer eich bod wedi gwneud hynny.

  • cychwyn a dechrau

    Mae pobl yn aml yn defnyddio ‘cychwyn’ a ‘dechrau’ i olygu’r un peth, ond mewn gwirionedd mae ychydig o wahaniaeth rhwng y ddau air. Ceir syniad o symud yn y gair ‘cychwyn’, ee

    ‘Byddaf yn cychwyn i’r gwaith am wyth bob bore.’

    Mewn cyd-destunau eraill, ee lleoliad neu amser, dylid defnyddio’r gair ‘dechrau’:

    ‘Mae’n dechrau glawio.’
    ‘Rhestrir y pwyntiau pwysig ar ddechrau’r bennod.’

    Yn ogystal â hyn, defnyddir y gair ‘cychwyn’ yn y maes deddfwriaethol yn benodol i gyfleu ‘commencement’, yn yr ystyr bod deddfwriaeth yn dod i rym.

  • of

    Mae’n demtasiwn cynnwys y gair ‘o’ yn Gymraeg er mwyn cyfieithu ‘of’ mewn ymadroddion fel ‘the provision of support’, ‘the use of plastic’. Nid oes angen cyfieithu’r ‘of’ drwy ddefnyddio’r arddodiad ‘o’ fel arfer. Bydd amryw o ffyrdd o aralleirio, gan ddibynnu ar y frawddeg, ond un dewis sy’n gweithio’n aml yw defnyddio berfenw yn lle’r enw haniaethol:

    'The provision of support is important to ensure the scheme’s success.'
    'Mae’n bwysig darparu cymorth er mwyn sicrhau bod y cynllun yn llwyddo.'

    'The company aspires to reduce its use of plastic.'
    'Mae’r cwmni yn awyddus i ddefnyddio llai o blastig.'

    OND mae angen yr arddodiad ‘o’ pan fo’r enw cyntaf yn rhan o gyfanrwydd mwy ee ‘rhan o’r darten’, ‘aelod o’r tîm’.

    Efallai bod y gair ‘nifer’ yn dangos y gwahaniaeth rhwng y ddwy gystrawen yn fwy eglur:

    'The number of pupils attending the school decreased.'
    'Gostyngodd nifer y disgyblion a oedd yn mynychu’r ysgol.'

    'A number of pupils at the school were suspended.'
    'Cafodd nifer o ddisgyblion yr ysgol eu gwahardd.
    (hy rhan o gyfanswm disgyblion yr ysgol gyfan)'

  • teitlau arddangosfeydd, cynadleddau, cyrsiau, perfformiadau ac ati

    Mae’n anodd gwybod ar adegau a yw’n briodol cyfieithu teitlau o’r fath. Mae bron yn amhosibl pennu rheol bendant a fyddai’n gweddu i bob achos, felly dyma rai materion i’w hystyried wrth benderfynu a ddylid cyfieithu ai peidio.

    A oes teitl Cymraeg swyddogol?

    • Os yw’n ddigwyddiad yng Nghymru, dylid dechrau drwy chwilio a oes teitl Cymraeg swyddogol ar gael a defnyddio hwnnw
    • Mae’n annhebygol y bydd teitl Cymraeg swyddogol ar ddigwyddiad mewn rhan arall o’r Deyrnas Unedig nac ar ddigwyddiad rhyngwladol, ond gellid chwilio rhag ofn

    A yw’r teitl Saesneg yn un swyddogol?

    • Os yw’n ddigwyddiad rhyngwladol, gallai’r teitl fod wedi’i gyfieithu i’r Saesneg o ryw iaith arall neu fod ar gael mewn sawl iaith heblaw’r Saesneg. Os felly, mae’n bosibl y byddai’n rhesymegol ei gyfieithu i’r Gymraeg hefyd fel rhyw fath o ‘deitl cwrteisi’

    A yw’r teitl eisoes wedi’i gyfieithu?

    • Gellid cael gwahanol gyfieithiadau o’r teitl, hyd yn oed os yw’n un gweddol syml, gan ddrysu’r darllenydd ee gellid cyfieithu ‘Translation, Technology and Innovation’ fel ‘Cyfieithu, Technoleg ac Arloesi’ neu ‘Cyfieithu, Technoleg ac Arloesedd’
    • Dechreuwch drwy chwilio a oes cyfieithiad Cymraeg o’r teitl wedi cael ei fathu eisoes
    • Os oes, ystyriwch a fyddai’n well defnyddio hwnnw – oni bai ei fod yn wallus – er mwyn i’r darllenydd allu dod o hyd yn rhwydd i unrhyw wybodaeth ychwanegol sydd ar gael
    • Os nad oes, ystyriwch a fyddai’n camarwain y darllenydd i feddwl bod y digwyddiad yn cael ei gynnal yn Gymraeg pe baech yn rhoi’r cyfieithiad yn unig – fe all hyn fod yn arbennig o wir yn achos cyrsiau, sydd fel arfer yn cael eu rhoi mewn un iaith yn unig.
    • Gall fod yn syniad da cadw'r teitl yn Saesneg mewn achos o’r fath, ond cyfeirio'n ôl ato wedi hynny gan ddefnyddio teitl Cymraeg â llythrennau bach, ee defnyddio’r teitl ‘Translation, Technology and Innovation’ ond cyfeirio wedyn at 'yr arddangosfa cyfieithu a thechnoleg'

    Beth yw natur y ddogfen?

    • Gall fod yn briodol cadw’r teitl Saesneg yn unig os yw’n ddogfen academaidd neu os yw'r teitl yn dod mewn rhestr lle nad oes cyd-destun i roi rhagor o wybodaeth i’r darllenydd

    Cofiwch mai’r peth pwysicaf yw sicrhau bod modd i’r darllenydd gael yr holl wybodaeth berthnasol ynglŷn â’r digwyddiad, a gallu chwilio am ragor o fanylion, heb orfod troi at y ddogfen Saesneg.

Share this page

Sign up now to receive the latest news on Welsh events.

Back to top