Paratowyd yr Arddulliadur i roi cyngor ac arweiniad i’r rheini sy’n cyfieithu deunyddiau cyffredinol ar ran Llywodraeth Cymru. Gallwch ei bori yn ôl trefn yr wyddor neu yn ôl adran, neu ei chwilio am eiriau penodol. Byddwn yn diwygio cynnwys yr Arddulliadur ac yn ychwanegu ato’n rheolaidd.

Adrannau

Chwilio Yr Arddulliadur

Pori yn ôl trefn yr wyddor

Nesaf Blaenorol

D

  • deddfwriaeth

    Mae’n arferol rhoi teitl Cymraeg – teitl ‘cwrteisi’ – i ddeddfau ac offerynnau statudol nad ydynt ar gael yn Gymraeg. Dylai llawer o’r teitlau fod yn TermCymru.

    Os bydd rhan o destun deddf Senedd y Deyrnas Unedig neu Senedd Ewrop yn cael ei dyfynnu, ni fyddwn yn cyfieithu’r darn i’r Gymraeg gan nad oes statws cyfreithiol i gyfieithiad o ddeddf.

    Yn achos deddfwriaeth Gymreig, edrychwch ar y wefan www.legislation.gov.uk i weld a oes fersiwn Gymraeg.

    Os nad oes fersiwn Gymraeg ar gael, ni ddylech gyfieithu’r darn.

    Rhowch y frawddeg hon, neu addasiad ohoni, uwchben rhannau o ddeddfwriaeth a adewir yn Saesneg (ee mewn atodiad i ddogfen) er mwyn esbonio i’r darllenydd pam nad ydynt yn Gymraeg:

    Nid yw'r rhan hon o'r ddogfen ar gael yn Gymraeg gan mai dyfyniad o ddeddfwriaeth nad yw wedi ei gwneud yn Gymraeg ydyw.

  • degawdau

    Rhowch rifolion ar gyfer degawdau ond geiriau ar gyfer cyfnodau:

    • y 1960au (dim collnod), nid ‘y 60au’ nac ‘y chwedegau’ am nad yw’r ganrif yn cael ei phennu
    • dyn yn ei bumdegau, yr unfed ganrif ar hugain
  • diffiniadau

    Mewn deddfwriaeth Gymraeg rhoddir y gair Saesneg cyfatebol ar ôl y Gymraeg mewn llythrennau italig a rhwng dyfynodau a chromfachau ac eithrio yn yr ail enghraifft:

    • Ystyr “cath” (“cat”) yw …
    • Mae i “cath” yr un ystyr â “cat” yn … neu  
    • Mae i “cath” yr un ystyr ag a roddir i “cat” yn … neu
    • Mae i “cath” yr ystyr a roddir i “cat” …

    Os yw’r croesgyfeiriad at ddiffiniad mewn testun Saesneg, dyfynnwch y term Saesneg:
         Gweler adran 59(1) o’r Ddeddf am y diffiniad o “prescribed”, nid  ‘… am y diffiniad o “rhagnodedig”’

     

  • dros
    nid ‘a dros’, ond a thros
  • drwy / drwyddo
    nid ‘a drwy’, ond a thrwy
  • dyddiadau

    Dyma’r drefn y dylid ei defnyddio ar gyfer dyddiadau:
    1 Ionawr 2006, nid ‘1af Ionawr 2006’ na ‘Ionawr 1, 2006’

    Fe’i cynhelir ddydd Gwener, 30 Mehefin, nid ‘Fe’i cynhelir Ddydd Gwener, 30 Mehefin’ (hynny yw, nid oes angen priflythyren yn ‘Ddydd’).

    Bydd y pwyllgor yn cael adroddiad tua diwedd mis Hydref nesaf, nid  ‘... tua diwedd Hydref nesaf’.

  • dyddiau'r wythnos

    Mae’n anghywir defnyddio’r arddodiad ‘ar’ wrth gyfeirio at ddiwrnod penodol:
    Cynhelir y cyfarfod ddydd Llun, 15 Hydref
    Byddaf yn mynd i siopa ddydd Gwener nesaf

    Ond wrth gyfeirio at ddiwrnod cyffredinol, mae angen ‘ar’:
    Byddaf yn mynd i siopa ar ddydd Gwener (hynny yw, bob dydd Gwener neu unrhyw ddydd Gwener).

  • dyfyniadau

    Ni ddylid cyfieithu dyfyniadau o ddeunyddiau cyhoeddedig (dogfennau, deddfwriaeth, erthyglau papur newydd ac ati) os nad oes fersiynau Cymraeg ohonynt ar gael. Mewn rhai achosion, mae’n bosibl y byddai hi’n briodol cyfieithu’r dyfyniadau ond peidio â defnyddio dyfynodau.

    Os byddwch yn dyfynnu o ddogfennau sydd wedi’u cyhoeddi, gofalwch eich bod yn chwilio am y ddogfen berthnasol ar y rhyngrwyd ac yn cadw at yr union eiriad. Os nad oes fersiwn Gymraeg o’r ddogfen ar gael, gadewch y testun rhwng dyfynodau yn Saesneg.

    Os bydd rhan o destun deddf Senedd y Deyrnas Unedig neu Senedd Ewrop yn cael ei dyfynnu, nid ydym yn argymell eich bod yn cyfieithu’r darn i’r Gymraeg gan nad oes statws cyfreithiol i gyfieithiad o ddeddf.

    Yn achos deddfwriaeth Gymreig, edrychwch ar y wefan www.legislation.gov.uk i weld a oes fersiwn Gymraeg

    Rhowch y frawddeg hon uwchben rhannau o ddeddfwriaeth a adewir yn Saesneg (ee mewn atodiad i ddogfen), er mwyn esbonio i’r darllenydd pam nad ydynt yn Gymraeg:

               Nid yw'r rhan hon o'r ddogfen ar gael yn Gymraeg gan mai dyfyniad o ddeddfwriaeth nad yw wedi ei gwneud yn Gymraeg ydyw.

    Mae cyfieithiad Cymraeg swyddogol o Ddeddf yr Iaith Gymraeg ar gael yng Ngeiriadur Newydd y Gyfraith gan Robyn Léwis.

Rhannu'r  dudalen hon

Cofrestra nawr i dderbyn y newyddion diweddara am ddigwyddiadau yn Gymraeg

Yn ôl i'r brig