Nid oeddwn yn gallu dychmygu byw mewn gwlad ddwyieithog heb siarad y ddwy iaith

Ces i fy ngeni yn Lloegr ond pan oeddwn i’n dair oed symudodd y teulu i Seland Newydd. Tyfais i fyny ymysg y bryniau gwyrdd, y defaid a diwylliant y Maori, ond pan oeddwn i’n 20 oed des i i astudio rhaglennu cyfrifiaduron yn Llundain. Tra fy mod yno, des i sawl gwaith i Gymru a chwympais i mewn cariad gyda’r wlad. Es i yn ôl i Seland Newydd ac wedyn bues i yn Awstralia am amser hir ond yn fy nghalon roeddwn i’n gwybod taw yng Nghymru fyddwn i’n byw yn y dyfodol.

Pan gyrhaeddais yn ôl yng Nghymru yn 2008 nid oeddwn yn gallu dychmygu byw mewn gwlad ddwyieithog heb siarad y ddwy iaith. Siaradais Saesneg yn barod ond Cymraeg oedd yr iaith oeddwn i eisiau siarad. Dysgais trwy fynychu dosbarthiadau ym Mhrifysgol Caerdydd a defnyddio cwrs ar-lein sydd yn canolbwyntio ar sgiliau gwrando a siarad.

Yn y dechrau defnyddiais y Gymraeg gyda ffrindiau a oedd yn dysgu a hefyd gyda’u cymheiriaid a oedd yn siarad y Gymraeg fel mamiaith. Penderfynon ni gwrdd unwaith yr wythnos mewn tafarn Gymraeg i ymarfer sgwrsio a chael hwyl. Gyda nhw es i i weld bandiau, i gymryd rhan mewn cwisiau Cymraeg, ac i’r Eisteddfod Genedlaethol. Gwnaethon ni rannu tŷ gyda dysgwyr o bob rhan o’r byd er mwyn mynd bob dydd i’r Eisteddfod a chael wythnos heb Saesneg! Agorodd fyd newydd a diwylliant cyffrous i fi.

Rwy’n byw yng Ngheredigion bellach ac rwy’n defnyddio’r Gymraeg yn y siopau lleol, i fwcio fy nghar i gael gwasanaeth, i siarad â’r postmon, i wneud bron popeth. Rwy wedi cynrychioli fy ngweithle mewn cyfweliadau ar Radio Cymru sawl gwaith ac rwy’n awyddus iawn i ddatblygu fy Nghymraeg i safon uchel iawn er mwyn gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg bob dydd.

Rhannu'r  dudalen hon

Cofrestra nawr i dderbyn y newyddion diweddara am ddigwyddiadau yn Gymraeg

Yn ôl i'r brig