Dysgu Cymraeg yn Llundain

Wyddwn i ddim y byddwn i’n dysgu siarad Cymraeg, ond pan gwrddais fy mhartner cefais fy ysbrydoli i wneud hynny. Cymraeg yw ei iaith gyntaf a Chymraeg mae ei deulu yn siarad adre. Roeddwn i wedi blino ar fethu â deall, ac roeddwn i’n meddwl hefyd y byddai’n dda i’m hymennydd.

Ymrestrais mewn dosbarth i ddysgwyr yn Llundain. Roedd mwyafrif y bobl ar fy nghwrs dros 50 oed, pobl fel fi sydd ag amser sbâr tua chanol dydd, un neu ddau ohonyn nhw wedi’u geni yng Nghymru a chanddyn nhw acenion Cymraeg. Mae gan eraill rieni sy’n siarad Cymraeg a chanddyn nhw ddiddordeb yn nhreftadaeth eu teulu.

Mae fy nghariad a fi yn siarad Cymraeg yn aml iawn gartref, ac rwy’n credu ei fod e’n blino ar orfod cywiro fy ynganu, ond rwy’n gwybod ei fod e’n hapus mod i’n dysgu. Mi fydda i’n dysgu geiriau newydd bob dydd drwy ymarfer yr iaith yn aml. Rwy’n ffodus ein bod yn gallu gwneud hyn, oherwydd does gan nifer o’r bobl ar fy nghwrs neb gartref sy’n siarad Cymraeg.

Dydw i ddim yn rhugl o bell ffordd, ond rwy’n ceisio gwella drwy wylio ‘Pobol y Cwm’ ar S4C pryd bynnag y galla i.

Canais gân yn Gymraeg fel rhan o fy sioe yng Ngŵyl Caeredin ac fe fydda i’n aml yn canu’r gân hon ar y gylchdaith. Fe hoffwn ryw ddiwrnod wneud pum munud o berfformio yn Gymraeg ar fy nhraed - byddai’n sicr yn her. 

Rhannu'r  dudalen hon

Cofrestra nawr i dderbyn y newyddion diweddara am ddigwyddiadau yn Gymraeg

Yn ôl i'r brig