Sut i Gyfrannu
Wyt ti eisiau gadael i ni wybod am ddigwyddiad neu stori newyddion?
Dyweda YmaByw, Dysgu a Mwynhau yn y Gymraeg
Dyma ddathliad o’r gorau sydd gan Gymru a’r Gymraeg i’w gynnig. Mae’n cael ei chynnal yn ystod wythnos gyntaf mis Awst, am yn ail flwyddyn yn y de a’r gogledd.
Mae dros 150,000 o bobl yn ymweld â’r Eisteddfod bob blwyddyn, ac mae croeso cynnes i bawb – yn siaradwyr Cymraeg a’r di-Gymraeg. Mae offer cyfieithu ar gael ac mae 'na lawer o weithgareddau ar gyfer dysgwyr, gan gynnwys pabell a gwefan Maes D.
Y pafiliwn sydd wrth galon yr Eisteddfod. Dyma gartref y cystadlu, y cyngherddau a’r prif seremonïau. Bob dydd ar lwyfan y pafiliwn, mae corau a chantorion o bob cwr o’r wlad yn brwydro am y gorau. Mae 'na gystadlu mewn llu o adrannau eraill hefyd, gan gynnwys y bandiau pres, yr adrodd a’r dawnsio gwerin.
Mae 'na gryn edrych ymlaen at rwysg a drama prif seremonïau’r wythnos - y Cadeirio a’r Coroni.
Mae’r Gadair yn cael ei rhoi i’r gerdd orau sy'n cadw at reolau llym cynghanedd (dull o drefnu odl a geiriau mewn barddoniaeth). Mae’r Goron yn cael ei gwobrwyo am farddoniaeth heb gynghanedd.
Mae 'na wobrau eraill ar gyfer rhyddiaith, drama a chyfansoddi, ac yn y Pafiliwn min nos, mae 'na wahanol gyngherddau, yn amrywio o opera a sioeau cerdd i fandiau roc.
Ond mae mwy i’r Eisteddfod na’r Pafiliwn yn unig.
Bydd ymwelwyr yn aml yn treulio oriau'n cerdded yn hamddenol o gwmpas y maes lle mae 'na ddegau o stondinau yn gwerthu nwyddau gwahanol fel llyfrau, crefftau, gemwaith, dillad a chelf. Mae mudiadau o bob math – gan gynnwys elusennau, cyrff cyhoeddus a darlledwyr – yn bresennol ar y maes, yn ogystal â nifer o lefydd bwyta a bariau trwyddedig.
Mae perfformiadau cerddorol, lansiadau llyfr, sioeau plant, darlithoedd, sesiynau barddoni, dramâu a gigs hefyd yn rhan o fwrlwm yr ŵyl.
Atyniad mawr arall yw’r Lle Celf, arddangosfa celf a chrefft sy'n dathlu doniau byd celf gyfoes Cymru. Mae’r Eisteddfod yn cynnig gwobr flynyddol ym maes y celfyddydau gweledol, Y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain, ac mae Josef Herman (1962), Shani Rhys James (1992), Ifor Davies (2002) a Carwyn Evans (2012) ymhlith yr enillwyr.
Os nad wyt ti'n gallu cyrraedd y maes ei hun, 'does dim byd gwell nag eistedd yn gyfforddus ar y soffa, mwynhau’r perfformiadau a cheisio dyfalu pwy sydd am ennill. Mae rhaglenni teledu a radio di-ri o’r Eisteddfod yn cael eu darlledu ar S4C a BBC Radio Cymru. Mae 'na sylw hefyd ar raglenni Saesneg BBC Cymru Wales ac ITV Cymru Wales, mewn papurau newydd a chylchgronau Cymru ac ar-lein.
Cei fwy o wybodaeth am yr Eisteddfod, neu fe elli archebu tocynnau, ar wefan yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae mwy o wybodaeth am draddodiadau’r Eisteddfod ar wefan yr Amgueddfa Genedlaethol.
Wyt ti eisiau gadael i ni wybod am ddigwyddiad neu stori newyddion?
Dyweda Yma