Ynghylch BTC
Diweddarwyd diwyg ac adnoddau BydTermCymru yn ystod mis Mehefin 2017. Cewch grynodeb o’r gwelliannau isod.
Beth sydd ar BydTermCymru?
Mae BydTermCymru yn cynnwys:
- ein cronfa dermau chwiliadwy, TermCymru
- fersiwn chwiliadwy o Arddulliadur y Gwasanaeth Cyfieithu
- adnoddau ar gyfer cyfieithu testunau deddfwriaethol
- casgliad chwiliadwy o gofau cyfieithu y gallwch eu lawrlwytho i’ch meddalwedd cof cyfieithu eich hun
- adnoddau eraill ar gyfer cyfieithwyr proffesiynol.
Cyhoeddir y rhain ar y we yn y gobaith y byddant o ddefnydd nid yn unig i gyfieithwyr sy'n gweithio i Lywodraeth Cymru ond hefyd i gyfieithwyr yn gyffredinol ac i eraill sy’n gweithio mewn hinsawdd ddwyieithog.
O’r ddewislen ar y dde, gallwch ddewis tudalennau eraill sy’n rhoi mwy o gefndir ac arweiniad ichi.
Diweddariad mis Mehefin 2017
Diweddarwyd diwyg ac adnoddau BydTermCymru yn ystod mis Mehefin 2017 a hynny ar sail eich ymatebion i’n harolwg ar-lein cyhoeddus. Diolch i bob un o’r 112 ohonoch a lenwodd yr holiadur hwnnw.
Dyma rai o’r prif welliannau:
- Dim angen dewis iaith cyn chwilio am derm; bydd TermCymru yn chwilio’r cofnodion Cymraeg a Saesneg ar yr un pryd
- TermCymru yn dod o hyd i ffurfiau treigledig ar y geiriau Cymraeg y chwilir amdanynt, yn ogystal â’r ffurfiau cysefin
- Mwy o gofnodion yn ymddangos ar yr un pryd ar sgrin ganlyniadau TermCymru
- Casgliad chwiliadwy o gofau cyfieithu, a chanllaw ar gyfer eu lawrlwytho a’u defnyddio yn eich system cof cyfieithu chi
- Adran o adnoddau ychwanegol, gan gynnwys rhestr o arwyddion ffyrdd dwyieithog safonol
- Datrys y gwall oedd yn golygu nad oedd TermCymru yn dod o hyd i destun a oedd y tu mewn i gromfachau, ee yn nheitlau deddfau a rheoliadau
Treuliwch ychydig funudau yn crwydro’r safle i weld yr hyn sydd ar gael yma ichi.
Yn yr Adran hon
Mae cronfa dermau TermCymru ar gael ichi ei lawrlwytho o wefan META-SHARE.
Mae cronfa dermau TermCymru ar gael ichi ei lawrlwytho o wefan META-SHARE.