'Yr Arddulliadur' has been developed to give advice and guidance for those translating general texts. You can browse it alphabetically or by section, or search it for specific words. We’ll be revising the content of the guide, and adding to it regularly. 'Yr Arddulliadur' is published in Welsh only.

Sections

Search the Yr Arddulliadur

Browse alphabetically

Next Previous

C

  • caniatáu
    'caniatáu i rywun wneud rhywbeth' nid ‘caniatáu rhywun i wneud rhywbeth’
  • canrifoedd
    Ysgrifennwch enwau canrifoedd yn llawn:
    'yr unfed ganrif ar hugain', nid ‘21ain ganrif’ nac ‘21g’
  • cenedl enwau

    Ein harfer yw dilyn y genedl gyntaf sy’n cael ei nodi yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru os nodir dau ddewis, oni bai bod cytundeb ffurfiol i ddilyn cenedl wahanol er cysondeb. Er enghraifft, defnyddir ‘fersiwn’ yn fenywaidd gan y Gwasanaeth Cyfieithu er mai enw gwrywaidd yn unig ydyw yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru.

    Nodwch yn arbennig yr isod:

    benywaidd
    amrywiaeth
    anfantais
    economi
    effaith
    eitem
    fersiwn
    ffaith
    galwad
    gwybodaeth
    hysbyseb
    neges
    proses
    sesiwn
    strategaeth
    trosedd
    tudalen
    ymchwil
    ymgyrch
    ystyriaeth       

    gwrywaidd
    ffactor
    fformat
    fframwaith
    man (=lle)
    nifer
    rhwydwaith
    safle
    sector
    statws
    syndrom

  • circular / newsletter
    ‘Cylchlythyr’ ar gyfer y ddau. Efallai y byddai cyfiawnhad dros ddefnyddio 'newyddlen' ar gyfer ‘newsletter’ pe bai angen gwahaniaethu rhwng y ddau yn yr un darn o waith.
  • cod
    Er cysondeb: cod nid ‘côd’ lle bo’n cyfeirio at y gair Saesneg ‘code’.
  • còd
    Er cysondeb: còd nid ‘cod’ lle bo’n cyfeirio at y pysgodyn penfras.
  • cwyn (complaint)
    cwyn
    y gŵyn
    a chŵyn
  • cymaint / cynifer

    Mae angen gwahaniaethu.

    Mae ‘cymaint’ yn cyfeirio at ‘faint’:
    cymaint o dlodi, cymaint o law

    Mae ‘cynifer’ yn cyfeirio at ‘nifer’:
    cynifer o weithwyr, cynifer o anifeiliaid

  • cymerodd
    nid 'cymrodd'
  • cymryd
    nid 'cymeryd'
  • cymwysedig
    nid ‘cymwys’ lle bo’n cyfateb i ‘qualified’, ee athrawon cymwysedig
  • cymwyseddau
    nid 'cymhwyseddau'
  • cymwysterau
    nid 'cymhwysterau'
  • cynyrchiadau
    nid 'cynhyrchiadau'
  • cystrawen

    Wrth gyfieithu, rhaid osgoi glynu’n rhy gaeth wrth gystrawen y Saesneg.

    There will be an increase in the demand for and the provision of modern foreign language courses.
    Anghywir: Bydd cynnydd yn y galw am a’r ddarpariaeth o gyrsiau ieithoedd tramor modern.
    Cywir: Bydd y galw am gyrsiau ieithoedd tramor modern yn cynyddu a bydd mwy ohonynt yn cael eu darparu.

    The scheme was important in creating opportunities.
    Anghywir: Roedd y cynllun yn bwysig wrth greu cyfleoedd.
    Cywir: Roedd y cynllun yn bwysig o ran creu cyfleoedd.
     
    The aim of the scheme is to improve standards in schools.
    Anghywir: Amcan y cynllun yw i wella safonau mewn ysgolion.
    Cywir: Amcan y cynllun yw gwella safonau mewn ysgolion.

    Whilst we acknowledge that we cannot ...
    Anghywir: Tra’r ydym yn cydnabod na allwn ...
    Cywir: Er ein bod yn cydnabod na allwn …

    These are the potential problems.
    Anghywir: Y rhain yw’r problemau potensial (hynny yw, defnyddio ‘potensial’ fel ansoddair)
    Cywir: Y rhain yw’r problemau posibl.

    The number of cases has risen by 20%.
    Anghywir: Mae’r nifer o achosion wedi cynyddu/codi o 20%.
    Cywir: Mae nifer yr achosion wedi cynyddu/codi 20%.
    neu
    Bu cynnydd o 20% yn nifer yr achosion.

    To provide the public with information.
    Anghywir: Darparu’r cyhoedd â gwybodaeth.
    Cywir: Darparu gwybodaeth ar gyfer y cyhoedd.

  • cysylltnod

    Yn gyffredinol, mae angen y cysylltnod mewn cyfansoddeiriau lle bo’r ail elfen yn air unsill.

    Yn gyffredinol, nid oes angen y cysylltnod mewn cyfansoddeiriau lle bo’r ail elfen yn cynnwys mwy nag un sill.

    • Ar ôl y rhagddodiaid ad-, cyd-, dad-, di-, gor-, gwrth-, rhag-, rhyng-, tra-, traws-

          Enghreifftiau cyffredin:
          di-waith     diweithdra
          gor-ddweud  gorweithio
          cyd-fynd  cydadolygiad 

          Eithriadau cyffredin:
          ad- lle bo’r llythyren ‘t’ yn treiglo’n feddal ar ôl ad- mae angen cysylltnod gyda lluosillafion, ee ad-daliad, ad-drefnu
          cyd- lle bo cyd- yn golygu ‘fellow’, ‘joint’ mae angen y cysylltnod gyda lluosillafion, ee cyd-weithwyr, cyd-bwyllgor

    • Ar ôl yr ansoddeiriau ail-, arch-, blaen-, cam-, cyn-, lled-, ôl-, pen-, prif-, uwch-, is-

          Enghreifftiau cyffredin:
          ail-greu     ailadrodd
          cam-drin camddefnyddio

          Eithriadau cyffredin:
          prif   Mae ‘prifddinas’ a ‘prifysgol’ yn un gair. Pan fo prif yn cyfateb i chief yn Saesneg, mae’r ddwy elfen yn cael eu hysgrifennu ar wahân, ee ‘Prif Gwnstabl’.
          uwch-, is-  nid oes angen cysylltnod mewn geiriau fel ‘uwchraddol’, ‘isdeitl’ ond mae ei angen lle bo’r ail elfen yn enw ar gorff neu swydd ac ati, ee ‘uwch-reolwr’, ‘is-bwyllgor’, ‘is-lywydd’, ‘is-adran’. Arfer y Gwasanaeth Cyfieithu hefyd yw defnyddio ‘is-ddeddfwriaeth’.

    • cysyllteiriau yn dechrau â ‘hunan’
      ee hunan-barch hunangynhaliol

    Rhowch gysylltnod gyda chysyllteiriau sy’n cynnwys y rhagddodiad ‘e-‘ i gyfleu’r cyfrwng electronig, ee e-bost, e-bostio, e-lywodraeth, e-Weinidog, e-Gymru. Mae hyn yn bwysig o ran y pwyslais ac o ran cysondeb.

  • cyweiriau

    Rydym wedi dosbarthu’r cyweiriau a ddefnyddiwn yn ein gwaith yn bedwar prif gategori: y cywair clasurol, y cywair ffurfiol, y cywair anffurfiol a’r cywair llafar/anffurfiol iawn.

    1. Y cywair clasurol

    mathau o waith: 

    • deunyddiau lled-gyfreithiol
    • deunyddiau ffurfiol iawn 
      ee memoranda cyd-ddealltwriaeth, trwyddedau.

    nodweddion:  

    • Yr wyf, y mae, yr oedd etc
    • Yr wyf yn datgan bod y manylion hyn yn gywir
    • Yr wyf yn tystio bod …
    • ‘Hwy’ nid ‘nhw’
    • Ond ‘chi’, nid ‘chwi’

    2. Y cywair ffurfiol

    Mae cyfran helaeth o’n gwaith yn perthyn i’r categori hwn, ee

    • papurau pwyllgorau
    • papurau’r Cabinet
    • deunyddiau recriwtio, gan gynnwys hysbysebion swyddi
    • adroddiadau blynyddol
    • dogfennau polisi
    • rhai holiaduron a ffurflenni
    • llythyrau

    nodweddion:

    Ffurfiau berfol

     Rwyf (i) / Rwy'n  Nid wyf (i) 
     Rwyt (ti)  Nid wyt (ti) 
     Mae (ef/hi)  Nid yw (ef/hi)
     Rydym (ni)  Nid ydym (ni)
     Rydych (chi)  Nid ydych (chi)
     Maent (hwy) / Maen nhw  Nid ydynt (hwy) / Nid ydyn nhw

    O ran arddull, defnyddio ‘roeddent’ nid ‘roeddynt’, a ‘gallwch’ nid ‘gellwch’.

    Peidio â rhoi ‘y’ o flaen ‘mae’, ac eithrio mewn brawddegau perthynol: dyma’r bachgen y mae ei dad yn brifathro

    Geirynnau rhagferfol
    Mae’r geiryn rhagferfol ‘fe’ yn dderbyniol, ee fe gynhaliwyd, ond peidio â’i orddefnyddio.

    Osgoi defnyddio ‘mi’, ee ‘Mi roddodd’.

    Yna/’na
    Defnyddio ‘yna’, ee roedd yna ddau ddewis, os yw’n gwneud brawddeg yn gliriach, ond peidio â’i orddefnyddio. Osgoi’r ffurf ‘’na’, ee ‘mae ’na’.

    Hwn/hon
    y ffurflen hon, nid ‘y ffurflen yma’

    Arddodiaid
    ataf i, atoch chi, ato ef, atom ni, atynt hwy, atyn nhw

    Holi ac ateb
    Mae angen cynnwys y geiryn holiadol ‘A’ yn y cywair hwn. Nid oes angen ‘fi’, ‘chi’ etc bob tro.

     Holi  Ateb 
     A wyf (i)?  Ydw / Nac ydw (yn hytrach nag Ydwyf / Nac ydwyf)
     A wyt (ti)?  Ydw / Nac ydw
     A ydych (chi)? (unigol)  Ydw / Nac ydw
     A yw (ef)? A yw (hi)?  Ydyw / Nac ydyw
     A ydym (ni)?  Ydym / Nac ydym
     A ydych (chi)?  Ydym / Nac ydym
     A ydynt (hwy)?  Ydynt / Nac ydynt

    Y geiryn ‘y’ ar ôl ‘Sut’, ‘Pryd’, ‘Beth’ etc
    Mae angen cynnwys y geiryn ‘y’ yn y cywair hwn:
    Pryd y bydd y Gweinidog yn gwneud datganiad? nid ‘pryd bydd/pryd fydd’
    Sut y cafodd y cynllun hwn ei gymeradwyo? nid ‘sut cafodd/sut gafodd’
    A all ddweud beth y bydd yn ei wneud? nid ‘beth bydd/beth fydd’

    Lluosog ansoddeiriau
    Ein harfer yw peidio â defnyddio ffurfiau lluosog ansoddeiriau megis ‘ifanc’. Mae hyn yn helpu i sicrhau cysondeb mewn teitlau ac ati, ee Strategaeth Pobl Ifanc.

    Mae rhai eithriadau amlwg, wrth gwrs; ee ‘mwyar duon’, ‘gwartheg duon’, ‘rhosys cochion’. Mater o arddull bersonol yw hi dro arall, a does dim angen deddfu ynghylch pethau fel ‘Maen nhw’n addo gwyntoedd cryf/cryfion heno’.

     

    3. Y cywair anffurfiol

    mathau o waith:

    • datganiadau i’r wasg
    • rhai hysbysebion (nid hysbysebion swyddi)
    • llenyddiaeth ymgyrchoedd cyhoeddus, ee ymgyrchoedd gwrth-smygu, diogelwch ar y ffyrdd
    • deunyddiau ar gyfer disgyblion ysgol
    • rhai taflenni hysbysrwydd
    • rhai holiaduron a ffurflenni
    • posteri, sticeri

    nodweddion:

    Ffurfiau berfol

     Rydw i / Dydw i ddim  Rwy i / Rwy'n   Dw i / Dw i ddim
     Rwyt ti / Dwyt ti ddim    
     Mae ef / Dydy ef ddim    Dyw e ddim
     Mae hi / Dydy hi ddim    Dyw hi ddim
     Rydych chi / Dydych chi ddim    
     Rydyn ni / Dydyn ni ddim    
     Maen nhw / Dydyn nhw ddim    

    Peidio â defnyddio collnodau yn ‘dyw’ etc.

    Defnyddio’r rhagenw ôl yn fwy aml a chysoni cytsain olaf y terfyniad berfol neu arddodiadol i gyd-fynd â chytsain ddechreuol y rhagenw, ee ‘byddem ni > bydden ni’.

    Defnyddio ‘yna’ (ond nid ‘’na’) lle bo angen, ee Mae yna ddau ddewis.

    Defnyddio ‘nhw’ yn lle ‘hwy’.

    Cofiwch mai cysondeb ac ystwythder sy’n bwysig.

    Cwestiynau ac atebion (ee mewn rhai holiaduron/ffurflenni)
    Eto, cysondeb sy’n bwysig – peidio â chymysgu ffurfiau.

     Cwestiwn  Ateb 
     Ydw i?  Ydw / Nac ydw
     Wyt ti?  Ydw / Nac ydw
     Ydy e/hi?  Ydy / Nac ydy
     Ydych chi? (unigol)  Ydw / Nac ydw
     Ydych chi? (lluosog)  Ydyn / Nac ydyn
     Ydyn ni?  Ydyn / Nac ydyn
     Ydyn nhw?  Ydyn / Nac ydyn

    Arddodiaid
    ata i, atat ti, ato fe, ati hi, aton ni, atoch chi, atyn nhw

    Hepgor y geiryn ‘y’ ar ôl ‘pryd’, ‘sut’ etc
    Allwch chi ddweud pryd bydd yr adroddiad yn barod?
    Sut cafodd John wybod?

    Cynnwys ‘fi’, ‘chi’ etc ar ôl y ferf
    Dywedwch beth galla i ei wneud.
    Dyma beth dylech chi ei wneud.

    Mae treiglo’r ferf yn gyffredin hefyd
    beth alla i, beth ddylech chi

    Ceisiwch fod yn gyson o fewn yr un ddogfen.

    Cymalau rhagenwol yn y negyddol
    Mae lle weithiau i ddefnyddio ffurfiau mwy anllenyddol er mwyn sicrhau eglurder, ee mewn ffurflen Rhowch enwau’r bobl sydd ddim yn gweithio yn hytrach na ‘Rhowch enwau’r bobl nad ydynt yn gweithio’. Ond dyma begwn eithaf y cywair anffurfiol – defnyddiwch ‘nad ydynt’ etc fel arfer.

    Yma
    Mae’n iawn defnyddio ‘yma’ weithiau yn hytrach na ‘hwn’, ‘hon’ neu ‘hyn’, ee mewn taflen ar gyfer disgyblion ysgol.

    4. Y cywair llafar (neu anffurfiol iawn)

    mathau o waith:

    • sgriptiau ymgyrchoedd teledu
    • isdeitlau ar gyfer ymgyrchoedd teledu
    • rhai posteri/pamffledi
    • gemau/cartwnau

    nodweddion:

    Ffurfiau berfol

     Rydw i / Rwy i / Dw i  Dydw i ddim / Dw i ddim
     Rwyt ti  Dwyt ti ddim
     Mae e/o  Dyw e/o ddim / Dydy e/o ddim
     Mae hi  Dyw hi ddim / Dydy hi ddim
     Rydyn ni  Dydyn ni ddim
     Rydych chi  Dydych chi ddim
     Maen nhw  Dydyn nhw ddim

    Defnyddio ‘fe’/’mi’ lle bo angen
    fe fydd/mi fydd

    Defnyddio ‘yna’ neu ‘’na’
    Mae ’na xx o blant yn cael eu hanafu ar y ffyrdd bob dydd.

    Hepgor y geiryn 'y' a threiglo ar ôl 'pryd', 'sut' etc
    Pryd fydd y bws yn cyrraedd?
    Sut gafodd Siôn wybod?

    Hepgor llythrennau ar ddechrau geiriau
    ee sgrifennu, smygu, sgwn i

    Hepgor llythrennau yng nghanol geiriau
    ee pnawn yn lle ‘prynhawn’

    Hepgor llythrennau  ar ddiwedd geiriau
    ee posib, ffenest, peryg, o ddifri, cyfri, adre, sy

    Cywasgu geiriau
    ee Sdim gobaith, Snam digon o waith
    Er mwyn dangos sut y dylid ynganu’r geiriau, ee mewn sgript ar gyfer hysbyseb deledu. Byddai ‘Does dim’ yn well mewn deunydd printiedig.

    Defnyddio llafariaid ymwthiol
    ee pobol, sobor
    I’w defnyddio’n bennaf i ddangos yr ynganiad.

    Amrywiadau tafodieithol

    ee

     taw  mai
     efo  gyda
     ma's, mâs  allan
     lan  i fyny
     rŵan  nawr
     moyn  eisiau
     ffaelu  methu

    Mae’r geiriau yn yr ail golofn yn fwy safonol a dylid osgoi defnyddio’r rhai yn y golofn gyntaf oni bai eich bod yn gwybod y byddai’r sawl sy’n mynd i’w llefaru yn eu defnyddio’n naturiol yn ei iaith bob dydd.

    Nodyn: mater arall yw dewis pa air tafodieithol i’w ddewis i gyfieithu gair Saesneg pan fo amryw o eiriau ar gael yn Gymraeg a’r un ohonynt yn fwy ‘safonol’ na’r lleill. Weithiau bydd rhai’n rhoi dewis o ddau neu ragor o eiriau er mwyn i’r ystyr fod yn glir i ddarllenwyr ym mhob rhan o Gymru, ee iau/afu.

  • chi
    nid 'chwi'
  • cychwyn a dechrau

    Mae pobl yn aml yn defnyddio ‘cychwyn’ a ‘dechrau’ i olygu’r un peth, ond mewn gwirionedd mae ychydig o wahaniaeth rhwng y ddau air. Ceir syniad o symud yn y gair ‘cychwyn’, ee

    ‘Byddaf yn cychwyn i’r gwaith am wyth bob bore.’

    Mewn cyd-destunau eraill, ee lleoliad neu amser, dylid defnyddio’r gair ‘dechrau’:

    ‘Mae’n dechrau glawio.’
    ‘Rhestrir y pwyntiau pwysig ar ddechrau’r bennod.’

    Yn ogystal â hyn, defnyddir y gair ‘cychwyn’ yn y maes deddfwriaethol yn benodol i gyfleu ‘commencement’, yn yr ystyr bod deddfwriaeth yn dod i rym.

Share this page

Sign up now to receive the latest news on Welsh events.

Back to top