Hoffi barddoni? Dyma ap defnyddiol i dy helpu i odli.

Gall Ap Gwilym dy helpu i ddod o hyd i'r holl odlau ar dy ffôn. Mae'r ap yn cynnwys dros 23,000 o eiriau a 500 o odlau.

Y Glec, cylchgrawn sy’n ymwneud â barddoniaeth, gwersi, tarddiad geiriau, posau a phob math o bethau o’r byd barddoniaeth Cymraeg, sydd wedi creu’r ap gan ddewis enw gan un o odlwyr enwocaf Cymru – y bardd canoloesol Dafydd ap Gwilym.

Os oes gen ti ddiddordeb mewn barddoniaeth a llenyddiaeth Gymraeg yna gelli ddysgu mwy amdanynt yma.

Mae Ap Gwilym ar gael i’w lawrlwytho am ddim ar dy iPhone.

Chwilio newyddion

Rhannu'r  dudalen hon

Cofrestra nawr i dderbyn y newyddion diweddara am ddigwyddiadau yn Gymraeg

Yn ôl i'r brig