Gêm boblogaidd ar gyfer iPhone nawr ar gael yn Gymraeg

Mae Attack Kumquat yn debyg i Angry Birds ble mae’n rhaid i ti ddechrau adwaith cadwyn drwy symud pêl metel. Mae amrywiaeth o declynnau gwahanol ar gael i dy helpu, gan gynnwys bomiau, canonau, magnetau a rhaffau a dewis o leoliadau fel yr Arctig, y Jyngl a’r Grand Canyon. Mae’r gêm yn cynnig oriau o hwyl lle byddi di’n cael ymosod yn ffyrnig ar ffrwythau gan feddwl am ffiseg gyda llawer o botensial i ail-chwarae.

Mae 72 lefelau heriol i’w chwarae dros bedair ardal gyda mwy i ddod!
Mae’r ap ar gael i’w lawrlwytho am £1.99 ar Apple yn unig.

Chwilio newyddion

Rhannu'r  dudalen hon

Cofrestra nawr i dderbyn y newyddion diweddara am ddigwyddiadau yn Gymraeg

Yn ôl i'r brig