Hanes cerddoriaeth pop Cymraeg


Mae pop a gwerin Cymraeg yn dianc o’r capeli a’r eisteddfodau wrth i bobl brotestio dros dranc yr iaith a’i chymunedau. Wedyn mae criw o fechgyn ifanc yn gafael yn eu gitârs trydanol ac yn bloeddio.



Mae Recordiau Sain yn rhyddhau’r gerddoriaeth sy’n gefndir i’r gweithredu wrth i arwyddion Saesneg gael eu tynnu i lawr a sloganau gael eu paentio ar waliau. Mae 'na alwadau i ddychwelyd i’r Fro Gymraeg yn y Gorllewin. Wedyn mae bardd ifanc swil yn rhyddhau cyfres o albyms grymus sy’n dathlu’r bywyd dinesig. Ei enw yw Geraint Jarman ac fe yw’r seren roc gyntaf go iawn.


Ar ôl protestio, mae’r gorsaf deledu S4C yn cael ei lansio ac mae pop Cymraeg yn troi’n adloniant ysgafn ar gyfer y teulu cyfan. Felly mae grwp o byncs ifanc yn cychwyn Recordiau Anhrefn.


Mae Recordiau Ankst yn tapio i mewn i natur wrthryfelgar ieuenctid a hedonistiaeth yr oes. Mae rêfs yn dechrau ymddangos ger maes yr Eisteddfod Genedlaethol. Catatonia yw sêr pop cyntaf y sîn.

Mae Super Furry Animals yn rhyddhau Mwng, albym Cymraeg sy’n hedfan i mewn i’r siartiau pop Prydeinig. Mae adeilad Senedd Cymru’n agor ym Mae Caerdydd. Mae Hip Hop ac electronica, y tanddaearol a’r prif ffrwd Cymraeg yn cael eu cymysgu. Daw Maes B yn wyl bop flynyddol wedi’i hariannu gan yr Eisteddfod Genedlaethol.Ond beth sydd ar ôl i ymladd drosto fe?

Mae dirwasgiad yn brathu wrth i fechgyn gyda gitârs berfformio ar lwyfannau gwyliau fel Green Man a Rhif 6 ac wrth i Faes B dyfu o flwyddyn i flwyddyn. Wedyn mae merch gyda synth yn rhyddhau albym am ddydd olaf dynol ryw.

Darluniau gan Phil Morgan, geiriau gan Gareth Potter. Gelli di glywed y caneuon gwnaeth ffurfio'r hanes ar bodlediad arbennig gan Mr Potter yma.

Cyfweliadau

Darllena beth sy'n ysbrydoli rhai o artistiaid mwya' blaengar Cymru 

yma

CAM

Hafan i gerddoriaeth a ffilmiau arbrofol o Gymru a thu hwnt

Darllen Yma

Rhannu'r  dudalen hon

Cofrestra nawr i dderbyn y newyddion diweddara am ddigwyddiadau yn Gymraeg

Yn ôl i'r brig